|
Allan i’r Awyr Agored â Chi – gweithgareddau i roi hwb i feddyliau plant a staff
Gwnewch y gorau o'r awyr agored cyn i'r gaeaf gripian i mewn a rhowch gynnig ar y gweithgareddau syml hyn i gefnogi lles plant a staff.
Myfyrdod Awyr Agored – gofynnwch i blant a staff ddod o hyd i le i eistedd neu orwedd yn llonydd iawn. Gofynnwch iddynt sylwi ar un peth y gallant ei arogli, ei glywed, ei weld, ei flasu a'i deimlo.
Cymerwch weithgareddau dan do i’r tu allan – beth am gael byrbryd y tu allan, celf a chrefft gyda natur gan ddefnyddio dail a brigau, mynd â llyfrau a gemau i’r awyr agored i chwarae.
Gofynnwch i blant symud mewn unrhyw ffordd sy'n teimlo'n dda iddyn nhw, gan eu helpu i deimlo eu bod wedi'u hadfywio a rhyddhau endorffinau – rhedeg, ymestyn, cerdded, dringo, rholio neu neidio! Mae'n wych i staff ymuno hefyd!
|