|
Cynhadledd iechyd a llesiant, Caerdydd, Hydref 5
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n cynnal cynhadledd iechyd a llesiant er mwyn meithrin gobaith a chefnogi dysg.
Bwriad y digwyddiad yw ymchwilio i’r rhwystrau go iawn rhag ffynnu ym myd gwaith, yr hyn y gallwn ei wneud amdanynt, a sut y gallem ymdopi’n well â’r hyn na allwn ei newid.
Mae’r gynhadledd hon ynghylch cael sgyrsiau a chanolbwyntio ar sut y gallwn gefnogi ein gilydd i wneud hynny.
|