Amdanom ni

Cofrestrwch

Swyddi gwag

CYLCHLYTHYR TACHWEDD 2024

Y NEWYDDION DIWEDDARAF

 

Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cydweithio i ddatblygu datrysiadau iechyd digidol

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn dod ynghyd i hybu datblygiadau gofal iechyd yng Nghymru trwy arloesi digidol. Trwy gydweithio i ddatblygu a defnyddio datrysiadau iechyd digidol, nod y bartneriaeth yw gwneud Cymru yn arweinydd yn y maes hwn, gan wella canlyniadau gofal iechyd a chefnogi twf yr economi ddigidol.


Gyda’n gilydd, rydym yn adeiladu rhaglen ddeinamig sy’n meithrin cydweithredu rhwng y byd academaidd, diwydiant, darparwyr gofal iechyd, a llunwyr polisi, tra’n tynnu sylw at werth arweinyddiaeth meddwl, rhannu arferion gorau, cydnabod rhagoriaeth, a dangos buddion mesuradwy.



Darllenwch ragor ar wefan IGDC

Dangosfwrdd digidol newydd yn rhoi mewnwelediadau allweddol ar weithdrefnau asgwrn cefn ar draws GIG Cymru


Mae dangosfwrdd digidol newydd yn ei gwneud hi’n haws i glinigwyr gael mewnwelediadau allweddol ar driniaethau asgwrn cefn ar draws GIG Cymru.


Gellir defnyddio’r wybodaeth i helpu i leihau amseroedd aros am lawdriniaethau asgwrn cefn yng Nghymru a chanfod meysydd i’w gwella.



Datblygodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) y dangosfwrdd mewn partneriaeth â Chanolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru i’w gwneud yn gyflymach ac yn haws i dimau gweithredol a chlinigol weld gwybodaeth am ddefnydd presennol y gwasanaeth.


Darllenwch ragor ar wefan IGDC

System Rheoli Stoc Fferylliaeth Ysbytai wedi'i huwchraddio'n llwyddiannus


Mae’r uwchraddiad ‘Cymru gyfan’ sylweddol cyntaf i System Rheoli Stoc Fferylliaeth Ysbytai Cymru wedi’i gwblhau’n llwyddiannus, gan sicrhau y parheir i ddosbarthu 4 miliwn o eitemau a gwerth hanner biliwn o bunnoedd o feddyginiaethau yn ystod 2024.


Bu timau IGDC yn gweithio gyda thimau’r byrddau iechyd, a’r cyflenwr, i gwblhau’r gwaith uwchraddio heb unrhyw darfu ar y gwasanaeth.



Dywedodd Sam Lloyd, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau IGDC, “Mae hwn yn gyflawniad gwych. Gyda system mor bwysig sy’n cael ei defnyddio mewn 75 o leoliadau ledled Cymru, roedd llawer yn y fantol. Bu ein timau’n cydweithio’n wych â’r byrddau iechyd a’r cyflenwr, ac mae’n glod i bawb a gymerodd ran yn y prosiect iddo fynd mor llyfn ag y gwnaeth.”


Darllenwch ragor ar wefan IGDC

Y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn dathlu blwyddyn yng Nghymru


Mae gwasanaeth sy’n gwneud y broses ragnodi yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon i gleifion a staff gofal iechyd yn dathlu ei flwyddyn gyntaf yng Nghymru.


Lansiwyd y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yn y Rhyl, Sir Ddinbych, ar 17 Tachwedd 2023. Ers hynny, mae’r gwasanaeth wedi’i gyflwyno i rai cleifion ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, gyda channoedd o filoedd o bresgripsiynau’n cael eu dosbarthu heb y ffurflen bapur draddodiadol. 



Anfonwyd y presgripsiwn electronig cyntaf yng Nghymru o Ganolfan Feddygol Lakeside i Fferyllfa Wellington Road, carreg filltir a nodwyd gan ddigwyddiad lansio gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, Eluned Morgan AS. 


Darllenwch ragor ar wefan IGDC

Contractwyr cyfarpar dosbarthu cyntaf bellach yn defnyddio'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yng Nghymru

Mae rhai cleifion sy’n defnyddio dyfeisiau meddygol ac offer a roddir ar bresgripsiwn bellach yn gallu cofrestru ar gyfer gwasanaeth cyfleus, yn dilyn profion llwyddiannus gan nifer o gontractwyr cyfarpar yng Nghymru. 


Gall cleifion y mae eu meddygfeydd yn defnyddio’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) enwebu, neu ddewis, contractwr cyfarpar dosbarthu (DAC) i dderbyn eu presgripsiwn yn electronig gan y feddygfa. Mae hyn yn golygu nad oes angen postio'r ffurflen bresgripsiwn bapur bellach, gan arwain at wasanaeth mwy effeithlon.



Mae Nightingale, Respond a Fittleworth wedi profi meddalwedd a ddatblygwyd gan Clanwilliam yn llwyddiannus i'w galluogi i dderbyn presgripsiynau electronig. Cymeradwywyd cyflenwr y system i gefnogi’r gwaith o gyflwyno EPS mewn fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru ym mis Awst a chafodd gyfnod ychwanegol o brofi i gefnogi contractwyr cyfarpar dosbarthu hefyd.


Darllenwch ragor ar wefan IGDC
 

DIWEDDARIADAU PELLACH

Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn y rownd derfynol ar gyfer dwy Wobr Diwydiant TG y DU



Roedd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn falch o gyrraedd y rownd derfynol ar gyfer dwy wobr (13 Tachwedd) yn nigwyddiad blynyddol mawreddog Gwobrau Diwydiant TG y DU.


Mae’r gwobrau yn dathlu ac yn hyrwyddo’r sefydliadau, timau, prosiectau, technolegau ac unigolion sy’n llywio dyfodol TG.

Cyrhaeddodd IGDC y rhestr fer am y ‘Lle Gorau i Weithio ym Maes TG’ ac fe gyrhaeddodd y tîm Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig y rhestr fer ar gyfer gwobr ‘Tîm y Flwyddyn’ am eu gwaith ar y newid mwyaf i ragnodi yn GIG Cymru ers degawdau.


Dywedodd Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol: “Mae cyrraedd rownd derfynol gwobr mor fawreddog yn gamp anhygoel i bob un ohonom a byddwn yn parhau i weithio’n galed i wneud IGDC yn lle gwych i weithio.”


Sesiynau hyfforddi staff asiantaeth a dros dro ar gyfer Cofnod Gofal Nyrsio Cymru.


Mae tîm Newid Busnes IGDC yn cynnig sesiynau hyfforddi a holi ac ateb ar-lein ar Gofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR). Bydd pob sesiwn yn para awr, gan gynnwys arddangosiad ac yna sesiwn holi ac ateb. Dyma’r dyddiadau ar gyfer y sesiynau:

 


  • 16 Rhagfyr              14.00 – 15.00
  • 27 Ionawr              14.00 – 15.00
  • 24 Chwefror           14.00 – 15.00
  • 14 Mawrth               14.00 – 15.00

 

Os hoffech archebu lle a mynychu’r sesiynau hyn, archebwch trwy dudalen cwrs WNCR ar Dysgu@Cymru. Byddwch yn derbyn cadarnhad o’ch archeb ac e-bost i’ch atgoffa cyn y sesiwn.

Y Cofnod Gofal Iechyd Meddwl Cenedlaethol – Golwg i Gynllun Peilot



“Ein nod yw sicrhau bod y data cywir ar gael ar yr amser cywir fel y gellir gwneud y penderfyniad cywir.”



Mae Bethany Paines-Chumbley yn Ddadansoddwr Busnes yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC). Yn y blog hwn, mae Bethany yn sôn am y gwaith i ddatblygu Cofnod Gofal Iechyd Meddwl Cenedlaethol (NMHCR).


Canmoliaeth i dîm cyfathrebu Moddion Digidol mewn digwyddiad gwobrwyo cenedlaethol


Mae’r tîm y tu ôl i ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ymhlith cleifion a staff gofal iechyd am y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru wedi’i ganmol mewn seremoni wobrwyo genedlaethol fawreddog.



Cyrhaeddodd y tîm cyfathrebu Moddion Digidol rownd derfynol Gwobr Ymgyrch Sector Cyhoeddus Orau yng Ngwobrau 2024 Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR) Cymru yng Nghaerdydd nos Wener.



DIWEDDARIADAU CYFRYNGAU CYMDEITHASOL 







Fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion ar 19 Tachwedd, Gadewch i ni gymryd eiliad i ddathlu’r dynion sy’n ein hysbrydoli, yn ein cefnogi, ac yn gwneud gwahaniaeth yn ein bywydau.


I nodi’r achlysur, fe ofynnon ni i rai o’n cydweithwyr pwy yw eu modelau rôl gwrywaidd cadarnhaol.

 
Facebook  Instagram  LinkedIn  X
dhcw-enquiries@wales.nhs.uk
Facebook        Twitter        Linkedin        Youtube        Instagram
 
dhcw.nhs.wales
igdc.gig.cymru