Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhestr fer Gwobrau GIG Cymru 2022.
Roedd y beirniaid yn ei chael hi'n arbennig o anodd llunio rhestr fer oherwydd safon uchel y cyflwyniadau. Dywedodd un beirniad, “Mae rhai prosiectau anhygoel ar waith. Roedd yn dasg heriol ac emosiynol i gwblhau'r rhestr fer yng nghanol y dagrau, ond roedd yn hyfryd iawn darllen am y gwaith gwych sydd ar y gweill ledled Cymru.”
Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i gystadlu am wobr a dymunwn bob lwc i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn eu categori.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar 20 Hydref yng Nghaerdydd. Darllenwch y stori newyddion lawn a dilynwch @GwobrauGIGCymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.
|