Dewis cyntaf Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs o ran Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yw uCheck. Rydym yn defnyddio'r darparydd hwn i wirio ein staff ein hunain, a chyfeirio ein haelodau at Check, gan y gall Aelodau yn ogystal gael ffioedd prosesu gostyngol (bydd ffurflen gais ar gael ar gais).
Ynglyn ag uCheck
Mae uCheck yn cynnig amrywiaeth o ddatrysiadau fetio a sgrinio i dros 10,000 o gyflogwyr yn y DU. Mae'r rhain yn cynnwys Basic Disclosure Scotland a Gwiriadau Manylach a Safonol y GDG. Yn un o bedwar prif gorff mantell y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn y wlad, mae uCheck yn sgrinio dros 250,000 o gyflogeion yn flynyddol. Yn gwmni sy'n rhan o'r MG Care Group, maent wedi eu hachredu ag ISO27001 ac yn bartner Nettitude, ac yn gwarantu'r lefel uchaf o ansawdd a chydymffurfiad. Mae uCheck wedi arbenigo yng ngwiriadau'r GDG (y Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) er 2002. Wedi eu lleoli yn Exeter, Dyfnaint, maent yn cydlofnodi dros 1000 o wiriadau'r GDG bob dydd (Dydd Llun i Ddydd Gwener).
System uCheck
Mae canlyniadau'r GDG Manylach a'r GDG Safonol fel arfer ar gael o fewn 48 awr. Eu hamser cyflymaf hyd yn hyn yw 63 munud.
Prisio Diwygiedig o Fehefin 2017
Mae'r ffi sefydlu o £23.94 i aelodau o Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs wedi ei hepgor.
GDG Manylach
£53.20 (£44.00 a ffi brosesu o £9.20 yn cynnwys TAW)
Gostyngwyd i £48.80 i aelodau o Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs
GDG Safonol
£35.20 (£26.00 a ffi brosesu o £9.20 yn cynwys TAW)
Gostyngwyd i £30.80 i aelodau o Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs
Mae gwiriadau gwirfoddolwyr yn ddi-dâl, ond bydd ffi brosesu (£4,40) yn parhau'n daladwy.
Gellir trefnu taliadau ar gyfer anfonebu - y taliad i'w wneud drwy Ddebyd Uniongyrchol, neu, yn syml, Dalu Bob Tro gyda cherdyn credyd/debyd, gan ychwanegu'r ffi brosesu o 98c y gwiriad.
Yr hyn sydd wedi ei gynnwys yn y gwasanaeth
- Rheolwr Cyfrif Dynodedig yn brif bwynt cyswllt i chi
- Rhoddwyd y gorau i hawlio costau sefydlu cychwynnol
- Rhoddir mynediad i'r system i 5 o ddefnyddwyr. Gellir ychwanegu defnyddwyr ychwanegol am ffi o £1.20, yn cynnwys TAW.
- Mae adroddiadau llawn ar gael.
- Caiff eich cyfrif a'ch mynediad fel Defnyddiwr eu gosod yn eu lle o fewn 4 awr.
Mae canlyniad ar-lein ar gael, ond eto rhaid i leoliadau weld y Dystysgrif GDG wreiddiol, a gaiff ei hanfon yn uniongyrchol at yr ymgeisydd.
Mae'r gwasanaeth hwn yn caniatáu'r defnydd o Dystysgrifau'r GDG, i'w defnyddio yn achos cyflogwyr lluosog a chyfleoedd gwirfoddoli. Y mae hefyd yn rhoi cyfle i gyflogwyr wirio statws Tystysgrif GDG, sy'n cael gwared 'r angen am gwblhau gwiriad y GDG bob 3 blynedd. Os nad yw ymgeiswyr yn cadw eu tanysgrifiad i wasanaeth diweddaru'r GDG yn weithredol, bydd angen gwiriad newydd, ond bydd yr amlder yn ddibynnol ar bolisïau'r Cyflogwr ei hun gan nad oes
dyddiad dod i ben ar Wiriadau'r GDG. Gwelir y manylion yma
Rhaid i'r ymgeisydd wneud cais am y gwasanaeth diweddaru o fewn 19 diwrnod i ddyddiad rhyddhau eu Tystysgrif GDG. Y gost flynyddol yw £13.00 (yn ddi-dâl i wirfoddolwyr), a gellir ei thalu trwy ddebyd uniongyrchol neu gerdyn credyd/debyd.
Bydd modd i danysgrifwyr gymryd eu tystysgrif GDG o un swydd i'r llall, oni bai bod:
- Cyflogwr yn gofyn am dystysgrif newydd
- Bod angen tystysgrif newydd ar ymgeisydd ar gyfer 'gweithlu' o fath gwahanol (er enghraifft, bod gan ymgeisydd dystysgrif 'gweithlu oedolion' a bod arno angen tystysgrif 'gweithlu plant').
- Bod ar yr ymgeisydd angen lefel wahanol o dystysgrif (er enghraifft, pan fo gan ymgeisydd dystysgrif safonol y GDG a bod arno angen tystysgrif fanylach).
Unwaith y bydd wedi cofrestru, gall yr ymgeisydd
ddefnyddio'r gwasanaeth diweddaru i:
- ychwanegu neu gael gwared ar dystysgrif
- rhoi caniatâd i gyflogwyr wirio a oes unrhyw beth ar eich tystysgrif - awgrymir amlder o unwaith y flwyddyn, ond rhaid penderfynu hyn gan y cyflogwr, a'i gytuno gan y cyflogai.
- gweld pwy sydd wedi gwirio a oes unrhyw beth wedi newid ar eu tystysgrif
- gweld y manylion
Adnewyddu tanysgrifiad
Mae tanysgrifiad i'r gwasanaeth diweddaru'n para un flwyddyn. Gall ymgeiswyr adnewyddu eu haelodaeth trwy'r gwasanaeth diweddaru, naill ai:
- pan fyddant yn cofrestru am y tro cyntaf, drwy ddewis adnewyddu awtomatig
- hyd at 30 diwrnod cyn i'r tanysgrifiad presennol ddod i ben - ond ni allwch adnewyddu ar ddiwrnod olaf eich tanysgrifiad
Cyflogwyr a sefydliadau eraill
I
wirio statws tystysgrif y GDG ar lein
, rhaid i gyflogwyr a sefydliadau eraill:
Nid oes yn rhaid i gyflogwyr dalu na chofrestru er mwyn gwneud gwiriad ar statws. Gallant weld ganlyniadau'r gwiriad yn syth.