Diweddariad gan Môn Actif (16/03/2020)
Annwyl Aelod Môn Actif,
Dyma diweddariad byr i chi gan Môn Actif
.
Beth rydym ni'n ei wneud:
• Cynyddu pa mor aml rydym yn glanhau arwynebau cyswllt uchel e.e. desg derbynfa, handlen drws.
• Dilyn cyngor ac arweiniad Iechyd Cyhoeddus, Llywodraeth Leol a Chenedlaethol.
• Cyhoeddi canllawiau arfer gorau i'r holl staff.
• Eich diweddaru chi - gwnewch yn siŵr bod gennym gyfeiriad e-bost a rhif ffôn symudol diweddar ar gyfer chi fel y gallwn gyfathrebu unrhyw ddiweddariadau gyda chi.
Os ydych chi'n sâl neu wedi cael cyfarwyddyd i hunan-ynysu ni ddylech ddod i'r ganolfan.
Mae buddion iechyd a lles cadw'n actif yn gorbwyso unrhyw risg oni bai eich bod yn cael eich cynghori fel arall gan weithiwr iechyd proffesiynol.
Pam ddylwn i aros yn actif?
1) Gall gweithgaredd corfforol ac ymarfer corff helpu i hybu swyddogaeth imiwnedd.
2) Mae ymarfer corff yn lleihau straen.
3) Barn Iechyd Cyhoeddus yw ei bod yn (gyffredinol) ddiogel mynd i nofio ar yr adeg hon.
4) Mae Iechyd Cyhoeddus wedi cadarnhau y byddai Coronafeirws yn anactif gyda'r lefelau clorin a ddefnyddir mewn pwll nofio.
Beth allwch chi ei wneud i amddiffyn eich hun a chadw'n actif:
• Golchwch eich dwylo gyda dŵr poeth a sebon / glanweithydd dwylo pan gyrhaeddwch a chyn i chi adael unrhyw adeilad
• Ymarfer hylendid dwylo da yw'r ffordd orau i atal eich hun rhag dal Coronafeirws yn y gampfa. Cadwch eich dwylo i ffwrdd o'ch ceg, eich llygaid a'ch trwyn.
• Mae defnyddio offer campfa a gweithgaredd yn debyg i amgylcheddau eraill sydd ag arwynebau cyswllt uchel, felly glendid yw'r flaenoriaeth uchaf.
• Nid yw chwys yn heintus ond dylech lanhau ar ôl eich hun fel arfer. Yn y gampfa, peidiwch â defnyddio'r un tywel i sychu'r offer a'ch wyneb. Defnyddiwch y tyweli papur neu'r cadachau a ddarperir.
• Cadwch yn hydradol - mae ein peiriannau dŵr allan o ddefnydd ar hyn o bryd felly dewch â digon o ddŵr gyda chi i'n canolfannau.
Mynd i nofio:
• Mae buddion iechyd a lles cadw'n actif yn gorbwyso unrhyw risg oni bai eich bod yn cael eich cynghori fel arall gan weithiwr iechyd proffesiynol.
• Barn Iechyd Cyhoeddus yw ei bod yn (gyffredinol) ddiogel mynd i nofio ar yr adeg hon.
• Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cadarnhau y byddai Coronafeirws yn anactif gyda'r lefelau clorin a ddefnyddir mewn pyllau nofio.
• Os ydych chi'n defnyddio un o'n pyllau, peidiwch ag anghofio cael cawod a golchi â sebon cyn ac ar ôl i chi nofio.
Gwybodaeth arall:
• Mae Canolfannau Hamdden Môn Actif yn parhau i fod ar agor fel arfer
• Mae gwersi nofio Môn Actif ymlaen fel arfer
• Gofynnwn i gwsmeriaid i roi eu rhif aelodaeth i aelod o staff yn y dderbynfa ac ymatal rhag pasio eu cardiau aelodaeth i aelod o staff. Efallai y byddwch hefyd yn gallu sganio'ch cerdyn yn y dderbynfa - gofynnwch i aelod o staff am ragor o wybodaeth
• Mae'r peiriannau ffynnon ddŵr yn y canolfannau allan o ddefnydd ar hyn o bryd - gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dod â digon o ddŵr gyda chi.
• Mae glanweithwyr dwylo wedi'u lleoli o amgylch y canolfannau - gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio'r rhain.
• Glanhewch yr holl offer/peiriannau campfa gyda chynhyrchion glanhau a ddarperir ar ôl eu defnyddio. Bydd staff yn glanhau/sychu'r holl offer a pheiriannau ar ddiwedd y dydd.
• Mae holl weithgareddau a digwyddiadau Datblygu Chwaraeon Cynradd/Uwchradd/Cymunedol wedi'u canslo nes y rhoddir rhybudd pellach.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am eich aelodaeth neu eich archebion yn ein
cyfleusterau, dylech gysylltu'r Ganolfan Hamdden (rhifau ffôn isod).
Canolfan Hamdden Amlwch: 01407 830060
Canolfan Hamdden Caergybi: 01407 764111
Canolfan Hamdden David Hughes: 01248 715653
Canolfan Hamdden Plas Arthur: 01248 722966
Datblygu Chwaraeon: 01248 752037
Rydym yn monitro’r sefyllfa’n barhaus ac yn parhau i ddilyn y cyngor arbenigol sy’n cael ei roi i ni a byddwn yn eich diweddaru os bydd y sefyllfa'n newid.
Diolch,
Môn Actif