Yr haf 2023
CROESO I GYLCHLYTHYR
NYRSIO A BYDWREIGIAETH
DDIGIDOL GIG CYMRU
Bydd y cylchlythyr hwn yn helpu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i nyrsys a rhanddeiliaid am safoni a digideiddio dogfennau nyrsio yn GIG Cymru, yn ogystal â diweddariadau ynghylch y cymwysiadau digidol y bydd nyrsys a bydwragedd yn eu defnyddio.
Cofrestrwch ar gyfer y cylchlythyr nyrsio a bydwreigiaeth digidol a chael y newyddion diweddaraf yn syth i'ch mewnflwch
WNCR - Ward Cleifion Mewnol
Dwy flynedd o’r Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR)
Roedd Ebrill 2023 yn nodi dwy flynedd ers i WNCR fynd yn fyw am y tro cyntaf. I nodi’r achlysur, siaradodd DHCW â nyrsys ledled Cymru i glywed eu profiadau o ddefnyddio’r system a’r gwahaniaeth y mae wedi’i wneud i’r gofal a ddarperir i gleifion.
Newyddion Cofnod Gofal Nyrsio Cymru
Diweddariad WNCR Paediatreg gan Sian Thomas, Uwch Berchennog Cyfrifol
 
Rwy’n falch iawn o fod wedi ymuno ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru fel uwch berchennog cyfrifol ar gyfer cam 3 o ddigideiddio dogfennau nyrsio. Mae’r gwaith yn benodol yn ymwneud â phaediatreg cleifion mewnol.
 
Mae’r ffocws allweddol yn yr ychydig fisoedd cyntaf wedi bod ar sefydlu’r prosesau llywodraethu a sicrwydd. Cafodd y cyfarfod Bwrdd Prosiect Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (Cleifion Paediatreg Mewnol) cyntaf ei gynnal ddechrau mis Gorffennaf.
 
Mae'r tîm wir wedi gwerthfawrogi ymgysylltu â'r timau clinigol mewn unedau paediatreg ledled Cymru i drafod yr WNCR paediatreg a chael cyfle i ddangos sut y bydd yn edrych ac yn gweithio. 
 
Bydd y cyllid o’r gronfa buddsoddi mewn blaenoriaethau digidol gan Lywodraeth Cymru (DPIF), yn galluogi recriwtio nyrsys clinigol arbenigol a rolau cynnyrch arbenigol o fewn byrddau iechyd. Mae’r broses recriwtio cenedlaethol wedi dechrau ar gyfer y rolau allweddol hyn a fydd yn amhrisiadwy o ran cefnogi'r prosiect o fewn eu sefydliadau.
Tîm WNCR yn derbyn canmoliaeth uchel yng Ngwobrau Digidol HSJ
Derbyniodd tîm Cofnod Gofal Nyrsio Cymru ganmoliaeth uchel yng Ngwobrau Digidol HSJ eleni. Cyrhaeddodd y tîm rownd derfynol categori Tîm Digidol y Flwyddyn.
 
Pan gyrhaeddodd y tîm y rhestr fer ym mis Mawrth 2023 roedd y WNCR yn cael ei ddefnyddio mewn 239 o wardiau ar draws 41 o safleoedd ysbyty – gan gyfrif am 66% o wardiau cymwys yng Nghymru, ac mae'n parhau i dyfu. Mae nyrsys, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion i gyd wedi siarad am effaith gadarnhaol WNCR.
 
“Mae wedi bod yn adnodd defnyddiol iawn i ni i gyd. Rwy'n meddwl y byddai'r nyrsys i gyd yn cytuno ei fod yn syml iawn i’w ddefnyddio, a’i bwrpas mewn gwirionedd yw rhoi ffordd i ni i gyd rannu gwybodaeth a chydweithio. Naomi Jones, Myfyriwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
 
“Mae'n arbed amser yn bendant, ac rwy'n credu ei fod yn well ar gyfer gofal cleifion oherwydd ei fod yn golygu y gallwn dreulio mwy o amser gyda nhw yn hytrach nag yn cwblhau gwaith papur. Stacie Hall, Nyrs Staff, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Diweddariad gan y Tîm Newid Busnes

Mae wedi bod yn ychydig fisoedd prysur i Newid Busnes ym mhrosiect WNCR.
 
Rydym wedi cefnogi tîm Betsi Cadwaladr yn eu gwaith cyflwyno yn ysbytai cymunedol Eryri a Phenrhos Stanley.
Wrth barhau i gefnogi'r gwaith o gyflwyno asesiadau oedolion a datganiadau newydd sydd ar ddod, mae'r tîm Newid Busnes hefyd yn cefnogi dechrau'r prosiect WNCR pediatrig, gan ymweld â wardiau Plant ledled Cymru i gwrdd â'r timau a siarad â nhw am yr hyn i'w ddisgwyl ar eu taith ddigidol.
 
Yn ystod mis Mehefin, fe wnaethom dreialu sesiynau ym Mhrifysgol De Cymru, gan roi trosolwg ac arddangosiad o WNCR i fyfyrwyr nyrsio yn eu blwyddyn gyntaf. Cafodd y sesiynau dderbyniad da ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phrifysgolion ledled Cymru gyda sesiynau tebyg yn y dyfodol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein gwaith neu os oes angen unrhyw adnoddau arnoch i'ch cefnogi, e-bostiwch Cerian.john@wales.nhs.uk.
Adolygiad o'r broses o'r dechrau i'r diwedd
Mae proses WNCR o’r dechrau i’r diwedd yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd. Mae'r broses yn dechrau o'r adeg pan fydd dogfen newydd yn cael ei chydnabod yn y lle cyntaf fel un sydd angen ei digideiddio, yr holl ffordd drwy gylch oes y prosiect i'r adeg y mae'n fyw yn WNCR.
 
Hyd yn hyn, mae'r broses 'fel y mae' bresennol wedi'i mapio a cham nesaf y tîm fydd cytuno ar y gwelliannau sydd eu hangen i lunio'r broses 'fel y bydd', sy'n anelu at fod yn gyflymach, yn gliriach ac yn fwy effeithlon.
 
Mae cynrychiolwyr o Brif Swyddogion Gwybodeg Nyrsio (CNIOs) a Nyrs Glinigol Arbenigol (CNS) y bwrdd iechyd wedi cymryd rhan yn yr adolygiad, ynghyd ag aelodau o’r tîm cenedlaethol gan gynnwys Dadansoddwyr Busnes (BAs), Gwybodeg Glinigol, Safon Data, Newid Busnes, Datblygiad, Profi a Rheoli Prosiectau. 
Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llongyfarchiadau i Dîm Cenedlaethol WNCR a Beverley Havard a oedd ill dau yn enillwyr Gwobrau Cydnabod Staff DHCW eleni.
 
Enillodd tîm cenedlaethol WNCR, sy'n cynnwys DHCW mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a chynrychiolaeth nyrsio o fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, Dîm y Flwyddyn. Mae’r Cofnod Gofal Nyrsio Cymru wedi’i roi ar waith ym mhob bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth Felindre mewn dim ond 20 mis. Mae’r tîm wedi cael llwyddiant ysgubol wrth safoni a digideiddio dogfennau ar draws GIG Cymru.
 
Enillodd Beverley Havard wobr Llysgennad Digidol y Flwyddyn. Ymunodd Beverly â thîm Cofnod Gofal Nyrsio Cymru fel swyddog gwybodeg glinigol fis Gorffennaf diwethaf ac mae’n chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo arferion digidol a ffyrdd o weithio i nyrsys a chlinigwyr eraill.
Mamolaeth Ddigidol Cymru
Mae tîm cenedlaethol y rhaglen yn cael ei sefydlu, ac mae Rheolwr Rhaglen a phum Arweinydd Gwybodeg Mamolaeth Clinigol yn cael eu recriwtio i’r bwrdd iechyd. Mae’r gwaith o recriwtio’r ddau arweinydd bwrdd iechyd sy’n weddill ar y gweill.  
 
Mae gwaith i sefydlu trefn lywodraethu’r rhaglen wedi hen ddechrau, gyda’r Grŵp Llywio strategol cyntaf wedi’i gynnal ar 31 Mai 2023, a chyfarfod cyntaf Bwrdd y Rhaglen wedi’i drefnu ar gyfer 14 Gorffennaf 2023. Mae tîm y rhaglen yn gweithio i sicrhau bod yr aelodaeth glinigol a digidol gywir yn cael ei sicrhau i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r buddion a’r canlyniadau a ddymunir ar gyfer y rhaglen.  
 
Mae'r rhaglen hefyd yn sefydlu Grwpiau Sicrwydd Clinigol a Thechnegol i gefnogi caffael datrysiad cenedlaethol sy'n diwallu anghenion defnyddwyr ac sy'n gweithio fel rhan o weddill ein pensaernïaeth genedlaethol. Mae'r tîm yn y broses o gwblhau ymgysylltiad â'r farchnad i ddeall y dirwedd bresennol o gyflenwyr datrysiadau mamolaeth cyn i'r broses gaffael ffurfiol ddechrau.  
 
Wrth i’r rhaglen sefydlu fynd rhagddi dros yr haf, bydd y tîm yn gweithio tuag at gyflawni cynlluniau i gefnogi’r pedwar prif faes gwaith:  
 
·      Datrysiad mamolaeth o'r dechrau i'r diwedd i staff ar draws GIG Cymru. 
·      Porth menywod a genedigaethau i gefnogi partneriaeth gofal gyda chlinigwyr. 
·      Safoni'r llwybrau clinigol ar draws GIG Cymru.  
·      Fframwaith ansawdd i sicrhau y gall GIG Cymru gyhoeddi data am gyflenwi gwasanaethau ledled Cymru a sicrhau ein bod yn nodi ac yn dysgu o’r arferion gorau ledled y wlad.  
 
Dywedodd Jon Pinkney, Rheolwr Rhaglen Genedlaethol, “Mae’n anrhydedd cael gweithio ar y darn cyffrous a phwysig hwn o waith. Byddaf yn sicrhau bod y rhaglen yn cael ei llywio gan anghenion menywod a phobl sy’n rhoi genedigaeth a’r clinigwyr a’r staff sy’n cefnogi gofal mamolaeth. Bydd ymgysylltu â’n defnyddwyr yn ffactor hollbwysig er mwyn sicrhau canlyniad llwyddiannus”.  
 
Dywedodd Sian Thomas, Uwch Berchennog Cyfrifol, “Rwyf wrth fy modd bod Rhaglen Mamolaeth Ddigidol Cymru bellach yn fyw a bod y strwythur llywodraethu yn cael ei sefydlu. Bydd caffael a gweithredu datrysiad digidol Cymru gyfan yn cefnogi darparu gofal diogel, effeithiol a di-dor o safbwynt defnyddiwr gwasanaeth a safbwynt proffesiynol."
Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP)
Penodi arweinydd newydd ar gyfer Rhaglen Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig mewn ysbytai.
Bydd Dr Lesley Jones yn arwain y newid mwyaf i’r broses rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau mewn ysbytai yng Nghymru ers degawdau.
 
Gan ddod â phrofiad helaeth o 30 mlynedd o weithio ym maes nyrsio, mae Lesley wedi’i phenodi yn dilyn cyfweliad fel Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer y rhaglen rhagnodi electronig Gofal Eilaidd a Gweinyddu Meddyginiaethau (ePMA). Bydd hefyd yn parhau a’i rôl fel Pennaeth Nyrsio ar gyfer Safonau Proffesiynol a Digidol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan rannu ei hamser rhwng y ddwy rôl.

Mae’r rhaglen ePMA Gofal Eilaidd yn rhan o’r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) sy’n cael ei letya gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae'n dwyn ynghyd a pedair rhaglen at ei gilydd a fydd yn cyflawni buddion dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru. Pan gaiff ei chyflwyno, bydd defnyddio’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf yn gwneud y broses gyfan o ragnodi, gweinyddu a dosbarthu meddyginiaethau mewn ysbytai yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy effeithlon.
 
Dywedodd, “Rwy’n falch o gael y cyfle hwn i wneud gwahaniaeth. Fel nyrs rwyf wedi gweld sut y gall technoleg symleiddio prosesau a helpu i wneud gofal cleifion yn fwy diogel ac yn haws. Roedd adborth gan WNCR yn dangos awydd mawr am fwy o wasanaethau digidol. “Rydym yn byw mewn cyfnod cyffrous, gan gyflwyno newidiadau parhaol mewn technoleg sy’n ystyried prosesau sylfaenol gofal iechyd a phrofiadau staff a chleifion.”
ePMA: Cynulleidfa gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Ar 24 a 25 Mai dysgodd dros 100 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol fwy am y manteision a'r heriau a wynebir wrth weithredu system ePMA. Cynhaliwyd y digwyddiad gan y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Bydd yr hyn a ddysgwyd o'r digwyddiad yn cefnogi'r bwriad i gyflwyno ePMA ar bob ward ledled Cymru.
 
Diweddariad am Nyrsio Cymunedol, Gwasanaethau Plant a Nyrsio Ardal 
Mae ymgysylltiad clinigol parhaus yn mynd rhagddo ledled Cymru i drafod y prosesau, problemau, dymuniadau ac anghenion a phrofiadau clinigwyr o fewn gwasanaethau. Mae'r rhain yn cynnwys iechyd meddwl, gwasanaethau plant a nyrsio ardal. Diolch i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys am gynnal cyfarfodydd a thrafodaethau dros y mis diwethaf.
 
Mae Fforwm Nyrsio Ardal Cymru Gyfan wedi hwyluso trafodaethau i ddechrau gwaith ar safoni dogfen asesiad cychwynnol.  
 
Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed mwy am y ffrwd waith hon, cysylltwch ag Abigail.Swindail3@wales.nhs.uk 
Ysgolheigion Florence Nightingale
Llongyfarchiadau i Bethany Kruger, Aron White, Sara Lucena Araujo, Barry Morgan a Hazel Powell sydd i gyd wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau i ymgymryd ag Ysgoloriaeth Florence Nightingale.
 
Yn ystod rhifynnau nesaf ein Cylchlythyr Nyrsio, ein nod yw cyflwyno cyfres o flogiau i chi gan ein Hysgolheigion Florence Nightingale yng Nghymru i ddangos eu taith a pham y dylech wneud cais. Daw'r ail flog yn y gyfres hon gan Lisa Graham, Pennaeth Nyrsio Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. 
Blog Ysgoloriaeth Arweinyddiaeth Ddigidol Florence Nightingale

Ces i sioc pan gefais fy nerbyn ar gyfer Ysgoloriaeth arweinwyr Digidol Florence Nightingale, â dweud y lleiaf. Byddaf yn ddiolchgar am byth i Gofal Iechyd Digidol Cymru (DHCW) a Sefydliad Florence Nightingale (FNF) am y cyfle. Mae’r daith hyd yn hyn wedi fy ngwthio y tu hwn i’r hyn sy’n gysurus drwy gynnig cyrsiau a rhaglenni i mi efallai nad oeddwn i wedi meddwl amdanyn nhw o’r blaen.
 
Mae'r ysgoloriaeth yn caniatáu i chi archwilio cyfleoedd arweinyddiaeth i weddu i'ch anghenion a'ch gofynion dysgu unigol ynghyd â rhai cyrsiau gorfodol fel CHIME a RADA Business.
 
Roedd CHIME yn gwrs preswyl a heriodd fy ffordd o feddwl am y rôl sydd gan dechnoleg ddigidol mewn Nyrsio. Mae'r cwrs hwn wedi agor cysylltiadau i mi ar draws y DU ac yn fyd-eang, a gallaf nawr alw fy hun yn arweinydd iechyd digidol ardystiedig (CDHL) yn swyddogol ar ôl llwyddo yn yr arholiad. Roedd cwrs preswyl RADA hefyd wedi fy ngalluogi i archwilio fy arddull arwain gyda grŵp gwych o nyrsys mewn gofod seicolegol diogel.
 
Rwyf ar fin cychwyn ar gwrs sy’n cael ei argymell yn fawr gan encil arweinyddiaeth merched HotHouse Eden Project o gyn-fyfyrwyr FNF, unwaith eto mae hwn yn gwrs preswyl wedi’i leoli yng Nghernyw. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld beth mae'r cwrs hwn yn ei ychwanegu at yr hyn sydd eisoes wedi bod yn daith wych.
 
Mae fy mhrosiect QI yn dal i fynd rhagddo, ac fel y mae gyda phob prosiect, mae bob amser heriau y mae angen i ni eu goresgyn. Bydd fy ngweledigaeth o ddangosfwrdd Ansawdd a Diogelwch digidol amser real rhyngweithiol 'The Buzz' yn parhau.
 
Fel Uwch Nyrsys gyda phortffolios mawr sy'n aml yn ymestyn ar draws sawl safle ysbyty, roedd cael golwg hofrennydd ar ansawdd, diogelwch a risgiau dyddiol yn her. Roeddwn i eisiau llwyfan lle roeddwn i'n gallu cael yr holl wybodaeth hon mewn un lle. Mae'r dangosfwrdd yn dal i fod yn waith ar y gweill, ond nid yw wedi atal fy mhrosiect rhag gwneud cynnydd. Mae The Buzz wedi'i roi ar waith ar draws 4 Is-adran, er mewn fersiwn Excel.
 
Mae cael Claire Bevan, yr Uwch Swyddog Cyfrifol a Fran Beadle,y Prif Swyddog Gwybodaeth Nyrsio, fel fy mentoriaid ar hyd y daith hon wedi bod yn un o’r uchafbwyntiau niferus i mi. Maen nhw wir wedi buddsoddi eu hamser ynof ar lefel bersonol a thrwy Sesiynau DPP mewn grŵp. Gyda'i gilydd, mae eu gwybodaeth wedi ymestyn fy ffordd o feddwl ac wedi herio fy syndrom twyllwr yn gadarnhaol! 
 
Wrth i fy Nhaith FNF ddod i ben, bydd y profiad yn cael effaith barhaol ar bennod nesaf fy nhaith arweinyddiaeth, gyda ffrindiau, cydweithwyr a gwybodaeth newydd. Byddwn yn argymell y rhaglen hon yn fawr i unrhyw un sydd wir eisiau cael effaith gadarnhaol ym myd arweinyddiaeth nyrsio.
Awgrymiadau defnyddiol


Chwiliwch am eicon ar y chwith, bydd hwn yn ymddangos ar eich bwrdd gwaith ac yn mynd â chi yn syth i gymhwysiad Cofnod Gofal Nyrsio Cymru

Mae Canolfan Hyfforddi Ar Alw bellach ar gael ar gyfer Cofnod Gofal Nyrsio Cymru lle gallwch ddod o hyd i fwy o arweiniad ac awgrymiadau defnyddiol.