Mandy Rayani BIP Hywel Dda - Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf
“Mae gweithredu a chyflwyno WNCR ar draws ein holl safleoedd o fewn y Bwrdd Iechyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i staff a chleifion. Mae hon yn system sydd wir yn canolbwyntio ar y claf, sy'n galluogi nyrsys ac aelodau eraill o'r tîm amlddisgyblaethol sy'n gofalu am bobl i allu ymateb i anghenion gofal tra’n dangos tystiolaeth o'r gofal a ddarperir yn glir. Bellach mae’n dechnoleg ddigidol sydd wedi’i gwreiddio mewn ymarfer ac rydym bellach yn gofyn i’n hunain sut y gwnaethom ymdopi hebddi. Mae’r holl staff yn edrych ymlaen at ddatblygiad parhaus y system.”
Nicola Williams, Cyfarwyddwr Nyrsio, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHPs) a Gwyddonwyr Meddygol, Pencadlys Ymddiriedolaeth Gorfforaethol Felindre
Mae’r gwaith o ddigideiddio dogfennaeth nyrsio yn Felindre wedi’i groesawu gan yr holl staff, a chaniataodd y brwdfrydedd hwn i symud yn llwyddiannus o ddefnyddio papur i ddefnyddio technoleg ddigidol y gwanwyn diwethaf. Mae hyn yn bendant wedi rhyddhau amser nyrsio ac wedi gwneud eglurder, archwilio a sicrwydd yn llawer haws. Mae archwiliadau diweddar wedi amlygu gwelliant sylweddol yn ansawdd mewnbynnu data ers digideiddio asesiadau nyrsio. Mae tystiolaeth glir bellach bod yr asesiadau nyrsio cychwynnol yn cael eu cwblhau o fewn y 4 awr a dargedwyd ar ôl derbyn claf. Mae'r tîm yn Felindre yn awyddus i'r holl ddogfennaeth gael ei digideiddio cyn gynted â phosibl. Bydd hyn hefyd yn gwneud trosglwyddo gofal yn llawer mwy diogel a chyflymach.
Yn ogystal, mae rôl y Nyrs Glinigol Arbenigol wedi caniatáu i arsylwadau o’r system gael eu bwydo’n ôl yn hawdd i dîm Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sydd wedi cynyddu hyder ein staff clinigol wrth drosglwyddo i system ddigidol ac mae wedi sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.”
Greg Dix, Cyfarwyddwr Nyrsio Gweithredol Cwm Taf Morgannwg
“Treuliais gyfnod yn Ysbyty Cwm Cynon ac Ysbyty Cwm Rhondda rai wythnosau’n ôl ac yn ddieithriad, dywedodd pob Rheolwr Ward wrthyf fod y system ddigidol newydd wedi trawsnewid pethau iddyn nhw a’u timau gan ryddhau amser i ofalu, ond hefyd lefel y sicrwydd y mae'r system yn ei roi o safbwynt archwilio.
Rhaid i mi ychwanegu hefyd fy mod wedi treulio peth amser yn sgwrsio â gweithiwr cymorth gofal iechyd yn ei 40fed blwyddyn o wasanaeth ac yn ei geiriau ei hun, dywedodd ei bod “yn gwybod dim am gyfrifiaduron” ac roedd hi’n bryderus iawn cyn y dyddiad gweithredu. Daeth i'r amlwg bod yr hyfforddiant ardderchog a gafodd gan y tîm a'r gefnogaeth 1-1 wedi lleddfu ei phryderon yn llwyr ac mae hi wrth ei bodd â'r system ddigidol newydd!
Mae’n llwyddiant ysgubol i ni ac mae rhoi’r system ar waith yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn mynd yn dda ac unwaith eto, mae’r adborth mor gadarnhaol gan staff.”
Gellir dod o hyd i ragor o adborth cadarnhaol gan nyrsys ar draws GIG Cymru yn y fideo isod.