Dyfarnwyd Safon Iechyd Corfforaethol Lefel Aur i Iechyd a Gofal Digidol Cymru gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i rhaglen Cymru Iach ar Waith sy'n annog cyflogwyr i wella iechyd a llesiant yn y gweithle.
Tynnodd asesydd rhaglen sylw at nifer o feysydd arferion gorau o fewn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gan gynnwys:
· Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn dangos hyblygrwydd mawr wrth ymateb i heriau'r pandemig a'r ymdrech sylweddol a wnaed i gynnal y ffocws ar iechyd a llesiant yn ystod y cyfnod pontio o Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) i Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
· Meincnodi arferion llesiant gyda chyflogwyr digidol eraill (Dell, Cisco, Microsoft) gan gydnabod bod gan ein staff anghenion iechyd a llesiant gwahanol na rhai cydweithwyr ar draws gweddill GIG Cymru.
· Grwpiau dan arweiniad staff fel y rhai ar y llwyfan cyfryngau cymdeithasol, Yammer (clwb rhedeg, clwb coginio a grŵp ffotograffiaeth, ac ati)
· Arolwg llesiant wythnosol y Ddesg Wasanaeth i olrhain llesiant staff a darparu cymorth cyflym ac amserol lle bo angen. Mae gan yr arolwg gyfradd ymateb o 95% sy'n dangos y parch mawr a roddir iddo.
Ychwanegodd yr aseswr, "roedd yn fraint clywed y weledigaeth ar gyfer y dyfodol a rannwyd gennych o sefydliad sydd â thosturi, cefnogaeth, gofal a thwf wrth ei wraidd - gweledigaeth a fydd yn sicr o gyfrannu at lesiant cenedlaethau presennol a'r dyfodol yng Nghymru."
Mae astudiaethau wedi dangos y bydd gan gyflogwyr sy'n mabwysiadu arferion gwaith da weithlu hapusach, iachach a mwy cynhyrchiol. Mae achos busnes clir hefyd i wella iechyd a llesiant cyflogeion gan fod cost absenoldeb oherwydd salwch fesul cyflogai oddeutu £600 y flwyddyn.