Ionawr 2022
Cyfarwyddwyr Gweithredol Newydd yn ymuno â Bwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn falch o gyhoeddi penodiad dau gyfarwyddwr gweithredol newydd.
 
 Penodwyd Ifan Evans, sy’n Gyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, yn Gyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth.
 
 Mae gan Ifan brofiad helaeth mewn arloesi a arweinir gan dechnoleg a dealltwriaeth ddofn o ddigidol a data. Roedd yn gyfrifol am ysgrifennu strategaeth Cymru Iachach Llywodraeth Cymru ac mae wedi arwain polisi iechyd a gofal digidol yng Nghymru ers 2019 - gan osod cyfeiriad strategol newydd, cryfhau trefniadau cyflawni, a chynyddu buddsoddiad i drawsnewid digidol yn sylweddol. 
 
Wrth sôn am ei benodiad newydd dywedodd Ifan Evans: "Rwy'n falch iawn o fod yn ymuno â DHCW. Nid yw gwasanaethau digidol erioed wedi bod yn bwysicach i bobl Cymru. Mae hwn yn gyfle gwych i weithio'n agosach fyth gyda'r tîm yn DHCW ac i arwain ar arloesedd a strategaeth."
 
Mae penodiad llwyddiannus hefyd wedi'i wneud i rôl Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau, a chyhoeddir rhagor o fanylion yn fuan, unwaith y bydd cyfnod rhybudd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i gwblhau.
 
Dywedodd Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol DHCW: "Rwy'n wirioneddol falch o gyhoeddi ein bod wedi gwneud y ddau benodiad newydd hyn. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r ddau a chredaf y byddant yn benodiadau amhrisiadwy i'r Bwrdd. Maent yn dod â phrofiad helaeth a safbwyntiau newydd a byddant yn chwarae rhan bwysig yn ein helpu i ddatblygu ein rhaglen genedlaethol uchelgeisiol i alluogi trawsnewid iechyd a gofal yn ddigidol yng Nghymru.
 
Bydd y ddau benodiad newydd yn ymgymryd â'u swyddi gyda DHCW yn y gwanwyn.
Mae cefnogaeth DHCW ar gyfer Pàs Covid y GIG yn cynnwys pasiau digidol a phapur
Mae dinasyddion yng Nghymru yn gymwys i gael copi o'u Pàs Covid ar yr amod eu bod wedi cael dau ddos o frechlyn cymeradwy (neu un dos sengl o frechlyn 'Janssen') trwy ap digidol a fersiwn papur, y mae'r ddau ohonynt yn cael eu cefnogi gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW).
 
Mae Pàs Covid y GIG yn caniatáu i bobl rannu eu statws brechu rhag coronafeirws a chanlyniadau prawf sydd bellach yn ofynnol pe byddech yn dymuno teithio dramor i rai gwledydd, neu fynychu digwyddiadau neu leoliadau penodol yng Nghymru neu Loegr.
 
Mae DHCW yn darparu cefnogaeth i'r Pàs Covid drwy anfon cofnodion brechu a gofnodwyd yng Ngwasanaeth Imiwneiddio Cymru at ein partner NHS Digital sy'n rheoli'r gwasanaeth drwy integreiddio Cofnod Pandemig Cymru.
 
Mae dinasyddion Cymru hefyd yn gallu gofyn am fersiwn papur o'u Pàs Covid y GIG os na allant wneud cais ar-lein. Rhoddir tystysgrifau papur ar yr amod bod y dinesydd wedi cael cwrs llawn o'r brechiad COVID-19 ac yn 12 oed neu'n hŷn.
 
Er mwyn cefnogi'r broses pàs papur, mae DHCW wedi datblygu dangosfwrdd y mae gan ‘Dîm Canolfan Celloedd Pàs Papur' fynediad iddo sy'n pennu cymhwysedd i gael pàs papur, ac sy'n creu cofnod brechu printiedig i'w argraffu ar ddeunydd ysgrifennu diogel unwaith y bydd y meini prawf wedi'u bodloni. 
 
Gall dinasyddion yng Nghymru fewngofnodi i llyw.cymru/cael-eich-pas-covid-y gig, cofrestru ar gyfer Mewngofnodi'r GIG ac, ar ôl eu dilysu'n llwyddiannus, gweld eu pasiau teithio domestig a rhyngwladol COVID-19 pryd bynnag y bo angen.
Hyfforddiant Ymgynghori Fideo am ddim ar gael ar gyfer clinigwyr gofal sylfaenol
 
Mae hyfforddiant am ddim ar gyfer Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru ar gael i feddygon teulu, fferyllwyr, deintyddion ac optegwyr sy'n dymuno darparu ymgynghoriadau fideo diogel i'w cleifion.
 
Mae'r hyfforddiant ar gael mewn cydweithrediad rhwng Tîm Gofal Sylfaenol Iechyd a Gofal Digidol Cymru a TEC Cymru ac mae'n cymryd tua 45 munud. Gall clinigwyr naill ai archebu sesiwn fyw neu gwblhau gweminar unrhyw adeg.
 
Mae Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru wedi cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru i gynnig gwasanaethau gofal iechyd mewn ffordd ddiogel i weld cleifion drwy apwyntiad fideo. Y cwbl sydd ei angen ar bob practis i ddefnyddio'r gwasanaeth yw:
 
· Cyfrifiadur gyda mynediad i we-gamera a chlustffonau.
· Llechen neu ffôn symudol gyda mynediad i gamera.
· Y fersiwn diweddaraf o Microsoft Edge, Google Chrome neu Apple Safari.
· Aelod o'ch practis i gymryd cyfrifoldeb am sefydlu/tynnu cydweithwyr o fewn y system ac i 'reoli' eich ystafell aros rithwir. Byddant yn cael eu galw'n 'uwch-ddefnyddiwr' a bydd gofyn iddynt fynychu hyfforddiant ar yr un pryd/cyn aelodau eraill o'ch tîm.

Digwyddiadau Ymgysylltu Cofnod Gofal Nyrsio Cymru a drefnir ar gyfer mis Mawrth

Mae cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid Cofnod Gofal Nyrsio Cymru - sy'n canolbwyntio ar safoni, cynnwys a datblygu myfyrwyr, a'r hyn sydd ar y gweill ar gyfer Cofnod Gofal Nyrsio Cymru - wedi'u trefnu ym mis Mawrth eleni.
 
Bydd y digwyddiadau yn cael eu ffrydio drwy Microsoft Teams a byddant yn cynnwys:
 
3 Mawrth 2022, 14.30 - 15.30
 
Rhannu taith Cofnod Gofal Nyrsio Cymru hyd yn hyn gyda chi, sut y gall Cofnod Gofal Nyrsio Cymru gynorthwyo gyda phrofiad a dysgu myfyrwyr drwy ddefnyddio Cofnod Gofal Nyrsio Cymru mewn wardiau cleifion mewnol sy’n oedolion ledled Cymru. Rydym yn gwerthfawrogi adborth gan Brifysgolion a myfyrwyr ledled Cymru i lywio datblygiad parhaus Cofnod Gofal Nyrsio Cymru fel defnyddwyr system presennol a nyrsys GIG Cymru yn y dyfodol.
 
17 Mawrth 2022, 14:30 - 15:30
 
Cyflwyniad i daith Cofnod Gofal Nyrsio Cymru, gwersi a ddysgwyd a bydd yn canolbwyntio ar ddatblygiadau technegol a chamau nesaf y system ddigidol.
 
24 Mawrth 2022, 14.30 - 15.30 
 
Cyflwyno'r fethodoleg safoni i ddogfennau nyrsio yng Nghymru a phwysigrwydd safonau gwybodaeth ar draws systemau clinigol. Bydd y gwersi a ddysgwyd o weithredu Cofnod Gofal Nyrsio Cymru i wardiau cleifion mewnol sy’n oedolion ledled Cymru hefyd yn cael eu harchwilio.
 
Hack Iechyd Cymru
Yn Ôl
 
Mae Hack Iechyd Cymru wedi dychwelyd! Oes gennych chi her yn y gwaith yr hoffech i rai o'n harloeswyr gorau a disgleiriaf eich helpu i'w datrys?
 
Mae trefnwyr Hack yn chwilio am heriau gan gydweithwyr sy'n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â rhai o'r heriau newydd sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod pandemig COVID-19. Mae syniadau buddugol yn y gorffennol wedi cynnwys masgiau wyneb tryloyw, apiau symudol COVID Hir, dyfeisiau mesur awtomataidd ar gyfer ffwythiant yr arennau ac adnabod delweddau wedi'i bweru gan ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer canfod canser y croen yn gynnar.
 
Rheolir Hack Iechyd Cymru gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gan gefnogi arloesedd i greu systemau gofal iechyd, prosesau, arferion, dulliau sy'n addas ar gyfer y dyfodol a gefnogir gan dechnoleg. Mae'n cynnig cyfle gwych i staff GIG Cymru, prifysgolion a diwydiant gydweithio a rhwydweithio i ddatblygu syniadau cam cynnar a allai ddatrys heriau iechyd gweithredol a gynigir gan glinigwyr a gweithwyr iechyd go iawn yng Nghymru. 
 
Bydd cyfranogwyr yn cael mynediad at arbenigwyr arloesi a fydd yn rhoi cyngor ynghylch sut i symud datrysiadau a gynigir yn eu blaen, yn ogystal â chael cyfle i sicrhau hyd at £20,000 o gyllid gan gronfa prosiect arloesi Llywodraeth Cymru o hyd at £250,000.
 
Cyflwynwch eich syniad her erbyn 11 Chwefror 2022.