Ionawr 2023
Gwasanaeth digidol newydd yn darparu gwybodaeth hanfodol ar gyfer gofal arennol

Mae crynodeb digidol o ofal cleifion arennol bellach ar gael ym Mhorth Clinigol Cymru (WCP), sy’n golygu bod gwybodaeth hanfodol ar gael pan fydd ei hangen. 
Mae'n cynnig golwg sy'n cael ei diweddaru'n aml ar ofal arennol unigolyn i weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gofalu am bobl ar ddialysis, neu sydd wedi cael trawsblaniad i achub bywyd, gan wella profiad y claf. 

Gall clinigwyr sydd â mynediad at Borth Clinigol Cymru weld diagnosis arennol claf, meddyginiaethau a gyflenwir gan yr uned arennol, ynghyd â nodiadau clinigol o'r system arennol. Mae hefyd yn cynnwys manylion cyswllt meddyg arennol a llawfeddyg y claf, yn ogystal â manylion ei dîm trawsblaniadau (os yn berthnasol). 

Mae’r tîm arennol hefyd wedi cyflwyno’r gallu i unedau dialysis gofnodi gwybodaeth am roi meddyginiaethau. Mae hyn yn galluogi cydweithwyr i weld rhestr o feddyginiaethau a roddwyd yn ddiweddar, pan fo’r cyfleusterau hynny yn bodoli.  

Y nod yw cefnogi cydweithwyr Gofal Sylfaenol ac Adrannau Argyfwng drwy roi gwybodaeth iddynt am ofal arennol claf, a fyddai fel arall y tu hwnt i’w cyrraedd yn uniongyrchol. 

Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn ymuno â WelshPAS

Mae gweithrediad hirddisgwyliedig WelshPAS DHCW yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi mynd yn fyw. 

Mae WelshPAS yn cadw manylion adnabod cleifion, ac yn cofnodi manylion ymweliadau cleifion ag ysbytai, gan gynnwys rheoli rhestrau aros, cofnodion meddygol, triniaeth cleifion mewnol, apwyntiadau cleifion allanol ac ymweliadau brys. Mae gweithredu WelshPAS yng Nghanolfan Ganser Felindre yn rhan o 'Raglen Ganser' ehangach DHCW, a sefydlwyd i weithredu Datrysiad Gwybodeg Canser i Gymru i ddisodli’r System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru (Canisc) gyfredol. 

Mae symud Canolfan Ganser Felindre i bensaernïaeth genedlaethol ac alinio un o’i systemau gweithredol allweddol â gweddill Cymru yn dod â manteision sylweddol gan gynnwys:
  • Y modd i weld cofnodion cleifion ar draws Cymru gyfan sy’n hwyluso ffyrdd mwy cydweithredol o weithio ar draws byrddau iechyd/ymddiriedolaethau
  • Proses weinyddol gyson ar draws y rhan fwyaf o GIG Cymru
  • Moderneiddio trwy wella'r system yn barhaus i ddiwallu anghenion defnyddwyr a sefydliadau
  • Y gallu i Ganolfan Ganser Felindre integreiddio'n well â systemau/cymwysiadau eraill

Roedd y cyflawniad hwn yn ganlyniad uniongyrchol i ymrwymiad, penderfyniad ac ymdrech gan bawb a gymerodd ran, yn ogystal â chydweithio a gwaith tîm ar draws y ddau sefydliad. Mae’r adborth cynnar wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae defnyddwyr yn canmol gwell mynediad at wybodaeth glinigol y mae'r system newydd yn ei darparu.

Mae nodyn diabetes digidol yn cysylltu gwybodaeth
 
Yn ôl gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio gyda chleifion diabetes, mae cofnod electronig a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer cleifion diabetes yn ‘drawsnewidiad go iawn’.

Soniodd un dietegydd am sut mae’r nodyn ymgynghori digidol ar ddiabetes (DCN) yn arbed amser iddi, gan nad oes rhaid iddi ysgrifennu’n ôl at nyrsys cyfeirio nac ymgynghorwyr. Esboniodd Victoria Oldham, dietegydd Diabetes arbenigol ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, “Gallaf ddiweddaru’r nodyn ac rwy’n gwybod bod gan weithwyr iechyd proffesiynol perthnasol eraill fynediad iddo hefyd. Yn ogystal â bod yn fwy effeithiol gan fod yr holl wybodaeth mewn un lle, mae hefyd yn arbed llawer iawn o amser”

Ceir mynediad i’r nodyn trwy Borth Clinigol Cymru ac fe’i defnyddir i gofnodi, gweld a rhannu gwybodaeth cleifion diabetes. Mae Dr Gautam Das, ymgynghorydd diabetes, wedi bod yn defnyddio'r DCN ers iddo gael ei dreialu yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn 2019. Dywedodd, “Mae’n flaengar o ran arwain at newid patrwm yn y ffordd rydym yn rheoli diabetes ac yn cynnal cofnodion cleifion.

Mae'r DCN ar gael i weithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â gofal diabetes gan gynnwys dieteteg, podiatreg a’r maes cyn-geni mewn ysbytai yn ardal byrddau iechyd Bae Abertawe, Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda, a bydd yn cael ei lansio yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gynnar yn 2023.
Claire Bevan o WNCR yn derbyn MBE

Llongyfarchiadau i Claire Bevan – Uwch Berchennog Cyfrifol (SRO) Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) am dderbyn MBE am wasanaethau i nyrsio a gofal cleifion.

Dechreuodd Claire ei gyrfa fel Myfyriwr Nyrsio yng Nghaerdydd ym 1986 a gweithiodd am dros ddegawd fel Uwch Nyrs Staff a Phrif Nyrs Ward ym maes Cardioleg. Wedi hynny, datblygodd drwy nifer o rolau uwch reoli, gan gynnwys rôl Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd a Nyrsio yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru, y bu ynddi tan 2019.

Mae ei gwaith tuag at gyflwyno WNCR – sydd bellach ar gael ac yn cael ei weithredu ym mhob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth yng Nghymru – yn trawsnewid y ffordd y mae nyrsys yn storio, rhannu a chael mynediad at wybodaeth cleifion. Enillodd WNCR wobr 'Prosiect TG Gorau'r Flwyddyn y Sector Gofal Iechyd' yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU 2021 Cymdeithas Cyfrifiadura Prydain (BCS) ac yn fwyaf diweddar enillodd Wobr Iechyd a Gofal y Beirniaid yng Ngwobrau MediWales 2022.  
Ymchwiliwch i yrfa mewn technoleg yn y diwrnod agored i fyfyrwyr

Ydych chi'n fyfyriwr israddedig neu raddedig sydd â gradd technoleg neu ddigidol?
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), a enillodd wobr y lle gorau i weithio ym maes TG yn ddiweddar, yn cynnal diwrnod agored gyrfaoedd ddydd Mawrth 31 Ionawr 2023. Ymunwch â ni a siaradwch â'n timau i weld sut y gallech chi ddod yn rhan o'r gwaith arloesol yn GIG Cymru. Cynhelir y digwyddiad yn ein Prif Swyddfa yng Nghaerdydd yn Nhŷ Glan-yr-Afon, Caerdydd, CF11 9AD.


Ar y diwrnod gallwch chi:
  • dysgwch am genhadaeth DHCW a sut rydym yn defnyddio technoleg i wella gofal iechyd yng Nghymru
  • ewch ar daith o gwmpas ein swyddfa yng Nghaerdydd a chwrdd ag aelodau ein tîm
  • ymunwch â her datrys problemau i ennill nwyddau DHCW
  • gofynnwch yr holl gwestiynau sydd gennych yn ystod Sesiwn Holi ac Ateb

Mae gweithio i Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys, gweithio hyblyg, hybrid, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.

Rydym yn eich gwahodd i anfon eich CV i [email protected]