Mai 2022
Dathlu Blwyddyn o system nyrsio ddigidol Cymru, Cofnod Gofal Nyrsio Cymru

Mae ychydig dros flwyddyn wedi mynd heibio ers i Gofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) gael ei gyflwyno gyntaf ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe yng ngwanwyn 2021. Ers hynny, mae system nyrsio ddigidol GIG Cymru wedi mynd o nerth i nerth wrth iddi gael ei chyflwyno'n gyflym ledled y wlad.

Mae’r WNCR yn system ddigidol sy’n trawsnewid y ffordd y mae nyrsys yn cofnodi, storio a chael mynediad at wybodaeth am gleifion. Yn hytrach na gwneud nodiadau ar bapur wrth ochr gwely claf, mae nyrsys yn defnyddio cyfrifiaduron llechi i gasglu gwybodaeth a’i storio yn ddiogel yn yr WNCR, fel bod gan ofalwyr fynediad at yr un wybodaeth gyfredol ar hyd taith gofal iechyd claf.

Mae nyrsys wedi canmol y system, gan ddweud ei bod yn ‘amhrisiadwy' ac mae Mandy Rayani - Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dweud nad yw hi'n gwybod sut y gwnaethon nhw ymdopi hebddo.

Ychwanegodd Greg Dix, Cyfarwyddwr Nyrsio Gweithredol Cwm Taf Morganwwg ei fod wedi trawsnewid pethau i'r staff wrth iddo ryddhau amser iddynt ofalu, ond hefyd o ran lefel y sicrwydd y mae'r system yn ei ddarparu at ddibenion archwilio.

Am ragor o wybodaeth am Gofnod Gofal Nyrsio Cymru, ewch i’n gwefan.
GIG Cymru yn lansio canolfan arloesi Microsoft bwrpasol ar gyfer staff


Mae Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 GIG Cymru wedi'i lansio i sbarduno arloesedd digidol creadigol ar draws GIG Cymru a rhoi cymorth i staff sy'n defnyddio meddalwedd Microsoft 365 (M365).

Wedi'i letya o fewn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, nod y Ganolfan Ragoriaeth yw hybu prosiectau gwella llwyddiannus a chynaliadwy ar draws GIG Cymru drwy rannu arferion gorau, datblygu gwybodaeth, cefnogi syniadau newydd, a helpu i roi datrysiadau M365 ar waith yn llwyddiannus ar draws byrddau iechyd.

Mae'r Ganolfan Ragoriaeth yn adeiladu ar waith tîm presennol rhaglen M365, sydd wedi arwain y gwaith o weithredu a datblygu M365 ers symud o gontractau lluosog i un contract ar gyfer GIG Cymru gyfan yn 2019.

Mae Rhwydwaith Hyrwyddwyr M365 ar gael i holl staff GIG Cymru sydd â diddordeb mewn arloesi M365, gan gynnig cyfleoedd hyfforddi a rhwydweithio. Gwnewch gais i ymuno yma.
Digwyddiad Microsoft yn cynnig cymorth arloesi digidol i staff adrannau achosion brys
Gwahoddir staff adrannau achosion brys GIG Cymru i ymuno â Chanolfan Ragoriaeth Microsoft 365 GIG Cymru ar gyfer ei phedwaredd digwyddiad hacathon ddydd Mercher 25 Mai 2022.

Mae'r sesiwn hanner diwrnod sydd wedi’i hwyluso gan Microsoft ar gyfer pob aelod o staff adrannau achosion brys, boed yn staff clinigol neu weinyddol, i ddeall sut y gall offer Microsoft 365 (M365) eu helpu i ddatrys heriau gweithredol gydag atebion digidol.

Bydd tîm y Ganolfan Ragoriaeth yn dangos atebion digidol sy'n bosibl o'r dechnoleg sydd ar gael, ynghyd ag enghreifftiau bywyd go iawn gan staff GIG Cymru sydd wedi cyd-greu apiau ac awtomeiddiadau M365 llwyddiannus eu hunain. Bydd sesiynau trafod ychwanegol yn rhoi amser a lle i'r rhai sy'n bresennol feddwl am eu syniadau neu eu heriau eu hunain sy'n berthnasol i'w maes gweithredol. Yna gallant rannu'r syniadau hynny gyda chydweithwyr a chydweithio i ddatrys problemau cyffredin.

Ar ôl yr hacathon, bydd tîm y Ganolfan Ragoriaeth yn mynd ar drywydd hyn gyda’r rhai a oedd yn bresennol i archwilio sut y gellir troi eu syniadau yn atebion M365, sut y gellir eu cefnogi, a pha gamau nesaf y dylid eu cymryd.

Mae hacathonau blaenorol wedi cynnwys staff ar y safle, staff yn y gymuned, a chymuned gyllid GIG Cymru. Mae pob sesiwn wedi cynhyrchu bron i 40 o syniadau arloesol sy'n awtomeiddio prosesau gorlafurus ac yn gwella cynhyrchiant, ar lefel leol a chenedlaethol. 

Mae lle ar gyfer hyd at 40 o gynrychiolwyr, ac nid oes rhaid i chi gael syniad neu her yn barod i gymryd rhan. Ymunwch â’r digwyddiad hacathon ar Teams ar 25 Mai.
Lleoedd wedi'u hariannu'n llawn ar gael ar Raglen Arweinyddiaeth Iechyd Digidol y GIG
Mae'r rhaglen yn rhan o Academi Ddigidol y GIG, sy'n ceisio datblygu cenhedlaeth newydd o wneuthurwyr newid digidol a fydd yn sbarduno trawsnewid gwybodaeth a thechnoleg yn y GIG.
Mae wedi'i hanelu at weithwyr y GIG neu'r sector cyhoeddus sy'n gweithio ar hyn o bryd ym maes gwybodeg iechyd neu rolau lle mae'n ofynnol iddynt ysgogi a gweithredu newid trawsnewidiol digidol ymarferol.

Mae'r cwrs blwyddyn yn defnyddio dull dysgu cyfunol sy'n cynnwys modiwlau ar-lein, sesiynau byw a dysgu trwy brofiad. Disgwylir iddo gychwyn ym mis Medi 2021.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer pum lle ar raglen eleni. I wneud cais am y cyllid, mae angen i ymgeiswyr gyflwyno cais ar-lein cyn y dyddiad cau ar 21 Mehefin 2021.

Cliciwch yma i wneud cais:  https://forms.office.com/r/gvRnN1XFRs

Cliciwch yma i lawrlwytho pamffled Academi Ddigidol y GIG i gael rhagor o wybodaeth.

E-bostiwch [email protected] i gael cymorth i wneud cais neu gydag unrhyw gwestiynau am y rhaglen.
Cyfarwyddwyr Gweithredol Newydd yn ymuno â Bwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru
 
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn falch o groesawu dau gyfarwyddwr gweithredol newydd i'r Bwrdd y mis hwn.
 
Mae Sarah-Jane Taylor yn Gyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol ac mae Gareth Davis wedi ymgymryd â swydd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Dros Dro.
 
Cyn ymuno ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru bu Sarah-Jane yn gweithio yn y llywodraeth ac ar lefel Cyfarwyddwr yn y GIG ers dros 25 mlynedd. Mae wedi arwain ar drawsnewid gwasanaethau yn ddigidol ar draws grwpiau gweithlu amrywiol yn y gwasanaeth sifil a gwasanaethau cyhoeddus.
 
Dywedodd: “Mae'r angerdd, yr egni a'r optimistiaeth sefydliadol ymhlith pawb yr wyf wedi cwrdd â nhw hyd yn hyn wedi bod yn wych. Rwyf wedi cael croeso mor gynnes ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddod i adnabod pawb yn well, ac i gydweithio i gyflawni nodau ac amcanion DHCW.”
 
Mae Gareth Davis yn dod â chyfoeth o brofiad o gyflawni sefydlogrwydd gweithredol a thrawsnewid digidol i'r sector cyhoeddus ac mae ganddo feddylfryd arloesol sy'n cael ei arwain gan gwsmeriaid.

Dywedodd: “Rwy'n gyffrous iawn am fy rôl yn DHCW, yn enwedig yn ystod y cyfnod pwysig hwn o drawsnewid digidol ledled GIG Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â'r tîm a rhanddeiliaid allweddol a defnyddio fy mhrofiad i sbarduno arloesedd technegol drwyddi draw.”
 
Yn ddiweddar, croesawodd DHCW Ifan Evans, cyn Gyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid Llywodraeth Cymru fel Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth.