Mae’r system ddigidol y tu ôl i’r gwaith o gyflwyno brechiadau COVID-19 yng Nghymru, sef System Imiwneiddio Cymru (WIS), wedi derbyn Gwobr Dewis y Bobl mewn seremoni yn Llundain am ei heffaith yn ystod y pandemig.
Mae Digital Leaders Impact Awards yn dathlu’r arloesiadau technoleg ddigidol sy’n gwella bywydau pobl neu sy’n sicrhau effaith gymdeithasol gadarnhaol. Cyflwynir Gwobr Dewis y Bobl i’r mwyaf poblogaidd o bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ym mhob categori, ac fe’i penderfynir drwy bleidlais y cyhoedd.
Mae System Imiwneiddio Cymru, a adeiladwyd mewn 16 wythnos yn unig gan dîm o ddatblygwyr meddalwedd yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn gweithio drwy integreiddio amserlennu gyda chofnodi brechiadau COVID-19 ledled Cymru, a hynny mewn un cymhwysiad. Agweddau allweddol ar lwyddiant y cynnyrch fu canoli apwyntiadau ar gyfer canolfannau brechu torfol, anfon llythyrau apwyntiadau, a negeseuon testun dwyffordd, gan sicrhau bod gan Gymru raglen frechu lwyddiannus.
Cystadlodd â 36 o gystadleuwyr cenedlaethol eraill yn y categori Gwobr Dewis y Bobl, gan gynnwys Pàs COVID y GIG, Swyddfa’r Cabinet, Riverford Organic Farmers a’r BT Green Tech Innovation Platform.