Medi 2022
Crynodeb o Gynllun Tymor Canolig Integredig Iechyd a Gofal Digidol Cymru 2022 - 2025 ar gael nawr

Mae Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) DHCW ar gyfer 2022 – 2025 yn nodi ein prif flaenoriaethau ar gyfer y tair blynedd nesaf. 

Fel y corff cyflawni cenedlaethol arbenigol o fewn teulu GIG Cymru, sy’n darparu’r arweinyddiaeth, sgiliau digidol, seilwaith a gwasanaethau gweithredol i drawsnewid iechyd a gofal, mae ein mewnbwn yn amlwg ym mron pob maes gofal iechyd.

Darllenwch fwy am ein hamcanion strategol yng nghrynodeb y Cynllun Tymor Canolig Integredig llawn.
Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Mawreddog BCS
 
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU 2022 gan y BCS.

Mae un ohonynt yn rhan o’r categori “Rhagoriaeth Sefydliadol, y Lle Gorau i Weithio ym maes TG” – sy’n cydnabod sefydliadau sy’n darparu’r cyfleoedd cyflogaeth a gyrfa gorau ar gyfer gweithwyr TG proffesiynol, yn ogystal â dangos ymrwymiad cadarnhaol i amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae’r ail yn rhan o’r categori ‘Rhagoriaeth Bersonol’, sy’n cydnabod gwaith Tracy Norris, sef Arweinydd ein Desg Wasanaeth, wrth ddatblygu Desg Wasanaeth DHCW sy’n cefnogi darparwyr gofal iechyd y GIG yng Nghymru.

Bydd y beirniaid yn cyhoeddi enillwyr y gwobrau yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae BCS, y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG, yn hyrwyddo ac yn cefnogi’r gymuned amrywiol sy’n tyfu ar gyfer TG a gweithwyr digidol proffesiynol. Mae ganddo dros 60,000 o aelodau o 150 o wledydd.
Contract newydd yn cefnogi System Rheoli Atgyfeiriadau Deintyddol Cymru

Bydd cleifion yng Nghymru sydd angen gofal deintyddol arbenigol yn parhau i olrhain eu hatgyfeiriadau drwy Wasanaeth Rheoli Atgyfeiriadau Deintyddol GIG Cymru yn dilyn contract newydd rhwng Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a darparwr y system atgyfeirio, RMS Ltd. 

Mae’r contract newydd – a fydd yn rhedeg o fis Mehefin 2023 i fis Mai 2027 – yn dilyn proses gaffael a arweiniwyd gan DHCW mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, gweithwyr deintyddol proffesiynol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a byrddau iechyd Cymru. 

Mae RMS wedi rhoi cymorth i glinigwyr sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Rheoli Atgyfeiriadau Deintyddol drwy gydol y pandemig COVID. Mae cleifion yn defnyddio'r gwasanaeth i olrhain atgyfeiriadau ac er mwyn adrodd ar faterion llwybr. Bydd y parhad hwn yn y gwasanaeth yn galluogi gwelliannau pellach i'r system yng Nghymru gan wneud y mwyaf o'r buddion sydd gan y system i'w cynnig. 
Dewch i'n diwrnod agored recriwtio rhithwir ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 – 16 Medi

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cynnal diwrnod agored recriwtio rhithwir ddydd Gwener 16 Medi 2022 i recriwtio arweinwyr technegol a datblygwyr ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 genedlaethol GIG Cymru.

Mae ein tenantiaeth Microsoft 365 ymhlith y mwyaf yn y DU. Mae 130,000 o ddefnyddwyr ac rydym yn chwilio am dîm o bobl a fydd yn ganolog wrth sicrhau ei chefnogaeth a'i datblygiad parhaus.


Archebwch slot gyda thîm y Ganolfan Ragoriaeth i gael trafodaeth anffurfiol am gyfleoedd swyddi gwag a manylion am y rolau.
Mae Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Sylfaenol, Gofal Cymunedol ac Iechyd Meddwl newydd wedi'i gyhoeddi

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn falch i gyhoeddi penodiad Sam Hall heddiw i rôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Sylfaenol, Gofal Cymunedol ac Iechyd Meddwl.

Bydd y swydd newydd hon yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gyfrifol am arwain y gwaith o drawsnewid ein systemau a’n gwasanaethau yn strategol a’u cyflawni’n weithredol yn y sectorau Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl.

Bydd Sam yn ymuno â ni o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru lle bu'n Brif Swyddog Digidol Cymru, y rôl gyntaf o'i math yng Nghymru. Yn ystod ei hamser gyda'r Gymdeithas Llywodraeth Leol, mae Sam wedi bod yn gyfrifol am ysgogi arloesedd, newid a gwella gwasanaethau ar draws pob un o'r 22 awdurdod lleol.

DHCW @ HETT
 
Mae DHCW yn cymryd rhan yn un o'r digwyddiadau technoleg iechyd a gofal mwyaf yn Llundain rhwng 27 a 28 Medi.
 
Mae sioe flynyddol HETT (Rhagoriaeth Gofal Iechyd Trwy Dechnoleg) yn rhoi dau ddiwrnod o rwydweithio a dysgu i’r gymuned iechyd digidol gan y ffigurau mwyaf dylanwadol ar draws y gymuned gofal iechyd.
 
Bydd gan DHCW siaradwyr a stondin yn y digwyddiad, felly dewch i'n gweld wrth fwynhau:
• 50+ awr o gynnwys sioe DPP wedi'i deilwra
• Trafodaethau byw, gweithdai, seminarau, ac astudiaethau achos
• Sgyrsiau â thros 200 o siaradwyr arbenigol iechyd digidol
 
• 5 theatr thema gan gynnwys Diwylliant a Gweithredu, Integreiddio a Rhyngweithredu, Fforwm Aeddfedrwydd Digidol, Cleifion wedi'u Grymuso'n Ddigidol ac yn newydd sbon ar gyfer eleni,y Theatr Seilwaith a Saernïaeth Data.
 
Byddwn yn Stondin A32, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio ac yn ymweld â ni. Mae'r digwyddiad am ddim. Ewch i wefan HETT i gofrestru.
Y Drindod Dewi Sant ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cydweithio i ysbrydoli a gyrru newid

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo a darparu diwylliant o gofleidio newid drwy gymhwyster newydd a fydd yn uwchsgilio ac yn grymuso staff.

Wedi’i gyllido gan Athrofa Wybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI), mae’r Dystysgrif Llysgennad Newid wedi ei llunio ar gyfer unigolion sy’n dyheu am ddod yn Llysgenhadon Newid o fewn eu sefydliadau. Bydd yn galluogi cyfranogwyr i ennill sgiliau a all wneud effaith gadarnhaol o fewn eu rolau, drwy ddeall egwyddorion newid mewn sefydliad, a sut i ddylanwadu ar hynny.