Mehefin 2022
Mae cysylltu data cleifion yn sicrhau bod meddyginiaeth sy'n achub bywydau ar gael i bobl sy'n agored i niwed  
Mae miloedd o bobl sy'n agored i niwed yng Nghymru sy'n profi'n bositif am COVID-19 yn cael mynediad hawdd at feddyginiaeth gwrthfeirysol diolch i bartneriaeth rhwng Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Gwasanaeth Gwrthfeirysol Cenedlaethol Cymru (NAVS).  
 
Mae DHCW wedi gallu llunio rhestr o dros 60,000 o gleifion â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes. Drwy gysylltu'r data cleifion hwn â phrofion COVID positif, mae NAVS wedi gallu darparu meddyginiaeth a allai achub bywydau yn gyflym i'r rhai sy'n arbennig o agored i gael eu hanfon i'r ysbyty.   
 
Mae'r gwaith arloesol hwn i gysylltu data wedi helpu i leihau'r straen ar ysbytai Cymru a chynyddu hygyrchedd gofal iechyd drwy wneud unigolion yn ymwybodol o'r driniaeth wrthfeirysol sydd ar gael iddynt. 
 
SAIL yn ennill yng Ngwobrau Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe

Llwyddodd tîm Gwasanaethau Gwybodaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru i rannu'r gydnabyddiaeth gyda thîm SAIL Prifysgol Abertawe am eu cyfraniad eithriadol i ymchwil ac arloesi.

Mae'r gwobrau a gynhaliwyd gan y brifysgol yr wythnos diwethaf, yn cael eu cyflwyno i ymchwilwyr a thimau sy'n gweithio yn y brifysgol i ddathlu ansawdd, perthnasedd ac effaith fyd-eang gadarnhaol ymchwil a'i photensial i ysbrydoli.

Enillodd y tîm o brosiect banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) - sy'n darparu storfa gadarn a diogel o ddata dienw sy’n seiliedig ar unigolyn sydd wedi'i greu at ddibenion ymchwil i wella gwasanaethau iechyd - y categori 'Effaith eithriadol ar iechyd a llesiant'. 

Mae cronfa ddata SAIL yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei data dienw am boblogaeth Cymru. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn gyfrifol am ddarparu llawer o'r data a ddefnyddir gan SAIL ac mae hefyd yn olrhain ac yn amgryptio unrhyw ddynodyddion personol a ganfyddir i sicrhau bod y data bob amser yn ddiogel.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am enillwyr pob categori a’r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer ar wefan Prifysgol Abertawe.

Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymuno â System Gweinyddu Cleifion Cymru (WPAS) 
Aeth yr ymfudiad data a ragwelwyd yn fawr o System Rheoli Gwybodaeth i Gleifion Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i enghraifft Ganolog Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o System Gweinyddu Cleifion Cymru (WPAS) yn fyw ddydd Llun 16 Mai 2022.  
 
Mae hyn yn rhan o raglen waith fesul cam i atgyfnerthu'r tair system rheoli cleifion ar wahân ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a gweithredu un enghraifft o WPAS ar draws y bwrdd iechyd. Gohiriwyd y gweithredu'n flaenorol oherwydd ailddyrannu adnoddau yn ystod pandemig COVID-19, ond arweiniodd cynllunio a chydweithio rhwng timau ar draws DHCW, BIPBC a Dedalus (y contractwr trawsnewid data trydydd parti), at benwythnos byw ddidrafferth.  
 
WPAS yw'r brif ffynhonnell o ddata gweinyddol ar gyfer cleifion mewn lleoliad gofal eilaidd, sy'n cadw manylion adnabod cleifion, ac yn cofnodi manylion ymweliadau cleifion ag ysbytai, gan gynnwys rheoli rhestrau aros, cofnodion meddygol, triniaeth cleifion mewnol, apwyntiadau cleifion allanol ac ymweliadau brys.  
  
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am WPAS Cymru a systemau eraill a ddefnyddir mewn gofal eilaidd yng Nghymru, yn adran 'Gofal Eilaidd' ein gwefan
Portffolio newydd ar y gweill i drawsnewid meddyginiaethau

 
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi lansio'r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) i ddarparu dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru.

Mae'r portffolio yn dwyn ynghyd y rhaglenni a'r prosiectau i wneud rhagnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau ym mhobman yng Nghymru yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac yn effeithiol, drwy ddull digidol.

Mae'r portffolio yn cydlynu pedwar maes gwaith gwahanol, ac mae gan bob un ohonynt gysylltiadau â'i gilydd:

  • Gwasanaeth Rhagnodi Electronig Gofal Sylfaenol - Llofnodi a throsglwyddo presgripsiynau'n electronig o feddygon teulu a rhagnodwyr anfeddygol i'r fferyllfa gymunedol neu ddosbarthwr dyfeisiau o ddewis yr unigolyn.
  • Rhaglen Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd yn Electronig - Gweithredu e-Ragnodi a rhoi meddyginiaethau (ePMA) ar draws holl ysbytai Cymru. Anfon presgripsiynau cleifion allanol i fferyllfa o ddewis yr unigolyn.
  • Mynediad i Gleifion - Defnyddio Ap GIG Cymru i rannu a chasglu gwybodaeth am feddyginiaethau, archebu presgripsiynau rheolaidd ac enwebu fferyllfa o ddewis yr unigolyn.
  • Cofnod Meddyginiaethau a Rennir - Creu un cofnod o feddyginiaethau a rennir ar gyfer pob claf yng Nghymru fel bod yr holl wybodaeth mewn un lle.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar y dudalen DMTP, neu gallwch gofrestru ar gyfer cylchlythyr DMTP. Mae’r Athro Hamish Laing, Uwch Berchennog Cyfrifol y Portffolio, wedi gwneud fideo byr hefyd yn esbonio'r portffolio.
e-Lyfrgell GIG Cymru yn cyhoeddi mynediad i gasgliad digidol newydd o e-Lyfrau
Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn cyhoeddi mynediad i gasgliad newydd sbon o bron i 400 o e-Lyfrau poblogaidd wedi'u curadu'n arbennig. Mae’r casgliad yn amrywio o ddeunydd meddygol, addysgol, adeiladu gyrfa a chyfeirio, gan ddarparu hyd yn oed mwy o offer tystiolaeth wrth ddefnyddio gwasanaethau llyfrgell.

Gellir cael mynediad i'r adnoddau newydd hyn yn unrhyw le o ddyfeisiau a ffefrir, yn debyg iawn i'r holl offer a deunydd e-Lyfrgell arall gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi i’r e-Lyfrgell.

Mae cynnwys y casgliad newydd hwn, a ychwanegwyd at stoc e-Lyfrau presennol yr e-Lyfrgell, wedi'i ddewis a'i gaffael drwy gydweithio â llyfrgellwyr ar draws GIG Cymru ynghyd â Llywodraeth Cymru. Caiff ei ddarparu drwy EBSCO Information Services a Browns Books, prif gyflenwr llyfrau ac e-Lyfrau'r DU ar gyfer ysgolion a llyfrgelloedd.
"Rydym yn falch o ychwanegu'r casgliad newydd hwn, a fydd yn ategu'r adnoddau printiedig sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd iechyd, yn gwella ein darpariaeth o e-adnoddau ac yn agor mynediad i ddefnyddwyr, lle bynnag y maent wedi'u lleoli," meddai Nia Jenkins, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae mynediad at lyfrau digidol yn parhau i dyfu, gan ategu adnoddau presennol a gwella arferion darllen ac ymchwil ochr yn ochr â deunyddiau printiedig, gan greu dull cyfannol newydd sbon o ymdrin ag anghenion sy'n ceisio tystiolaeth.
Trwy’r e-Lyfrgell ceir mynediad cenedlaethol i filoedd o adnoddau tystiolaeth digidol, testun llawn, dibynadwy a chyfredol. Mae'r e-Lyfrgell ar gael i holl weithwyr GIG Cymru, y rhai a gomisiynwyd i ddarparu gwasanaethau GIG Cymru, myfyrwyr ar leoliad, a llawer mwy.

I gael rhagor o wybodaeth am e-Lyfrgell GIG Cymru, ewch i'w gwefan yn: elh.nhs.wales
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn lansio cwrs gofal iechyd digidol newydd
 
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn derbyn ceisiadau ar gyfer y cwrs MSc Sgiliau Digidol i Weithwyr Iechyd a Gofal Proffesiynol newydd a fydd yn dechrau ym mis Medi.
 
Y cwrs cyntaf o'i fath yng Nghymru, mae'r cwrs ôl-raddedig hwn yn gwella sgiliau staff iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r cwrs hwn yn addas i'r rhai sydd â diddordeb mewn ehangu a gweithio o fewn tirwedd ddigidol darparu iechyd a gofal. Datblygwyd y rhaglen hon mewn cydweithrediad â Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI) a gweithwyr proffesiynol GIG Cymru. Mae WIDI yn bartneriaeth strategol rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol De Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae'r bartneriaeth hon yn sbardun allweddol ar gyfer gwella'r gweithlu digidol ar gyfer y Sector Iechyd a Gofal yng Nghymru.
 
Mae ceisiadau'n cael eu derbyn nawr.