This email is bilingual. Please scroll down for the Welsh version.

Study Contemplative Psychology at Master’s level – from anywhere

Introducing two new fully online Master’s programmes by the Centre for Mindfulness Research and Practice, Bangor University

We are pleased to introduce two new fully online Master’s programmes by Bangor University’s Centre for Mindfulness Research and Practice.


These new and innovative programmes are part-time over three years, making it possible to study an MA from anywhere while fitting around your lifestyle.

 

MA Contemplative Psychology: Mindfulness and Compassion

This degree will give you both practical experience and academic knowledge in contemplative psychology, combining theory, research, and personal mindfulness practice. You will learn how mindfulness and compassion connect with mental health, wellbeing, and everyday life.


By the end of the course, you will have strong skills in mindfulness practice, independent research, critical thinking and reflective practice.

MA Applied Contemplative Approaches: Mindfulness and Compassion

This degree will give you the skills to teach contemplative mindfulness approaches with confidence and depth across settings such as healthcare, education, workplaces, and community contexts, and to deliver this work in a professional and responsible way.

 

What the programmes offer

Study at one of the longest-established centres for mindfulness research, training, and practice worldwide.

  • Fully online, part-time study designed to fit around work and life
  • Study from anywhere in the world, with a global learning community
  • Combine academic learning with personal practice
  • Develop practical skills to apply contemplative approaches in various contexts
  • Grounded in theory, research, and reflective practice
  • Flexible study options, from standalone micro-credentials to full Master’s degrees
  • The Master’s is eligible for the UK Postgraduate Loan Scheme

Programmes begin in September 2026

We warmly welcome applications from those with undergraduate or postgraduate degrees, as well as those with relevant professional, practical, or life experience. Applications are encouraged from the UK and internationally.


The total fee for this three-year online Master’s degree is just £10,000 for both UK and international students. The cost is spread over the three years of the course, allowing you to pay in convenient instalments throughout your studies.


For full course details and how to apply, please visit:


MA Contemplative Psychology: Mindfulness and Compassion

MA Applied Contemplative Approaches: Mindfulness and Compassion

Please feel free to contact us if you have any questions.



Best wishes,

Dr Gemma Griffith


Director of CMRP Postgraduate Programmes, Co-Director, CMRP

Dr Sophie Sansom


Senior Lecturer, Co-Director, CMRP

Dr Bridgette O'Neill


Senior Lecturer, Teacher / Trainer


Bangor University is proud to be an affiliated teacher training organisation with the British Association of Mindfulness-Based Approaches (BAMBA) and recognised in 2024 as exceeding requirements and as an exemplar of good practice in equality, diversity, and inclusion.

 
 
 

Astudio ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi ar lefel Meistr – o unrhyw le

Cyflwyno dwy raglen Meistr cwbl ar-lein newydd gan y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar, Prifysgol Bangor

Mae'n bleser gennym gyflwyno dwy raglen Meistr gwbl ar-lein newydd a gynigir gan Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor.


Mae'r rhaglenni newydd ac arloesol hyn yn rhan-amser dros dair blynedd, gan ei gwneud yn bosibl astudio MA o unrhyw le tra'n cyd-fynd â'ch ffordd o fyw.

 

MA Seicoleg Myfyriol: Ymwybyddiaeth Ofalgar a Thosturi

Bydd y radd hon yn rhoi profiad ymarferol a gwybodaeth academaidd i chi mewn seicoleg fyfyriol, gan gyfuno theori, ymchwil, ac ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar personol. Byddwch yn dysgu sut mae ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi yn cysylltu â iechyd meddwl, llesiant, a bywyd bob dydd.


Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych sgiliau cryf mewn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, ymchwil annibynnol, meddwl beirniadol ac ymarfer myfyriol.

MA Dulliau Myfyriol Cymhwysol: Ymwybyddiaeth Ofalgar a Thosturi

Bydd y radd hon yn rhoi'r sgiliau i chi addysgu dulliau ymwybyddiaeth ofalgar fyfyriol gyda hyder a dyfnder ar draws lleoliadau megis gofal iechyd, addysg, gweithleoedd, a chyd-destunau cymunedol, ac i gyflawni'r gwaith hwn mewn ffordd broffesiynol a chyfrifol.

 

Beth mae'r rhaglenni yn ei gynnig

Astudio yn un o'r canolfannau hynaf ar gyfer ymchwil, hyfforddiant ac ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ledled y byd.

  • Astudiaeth rhan-amser llawn ar-lein wedi'i chynllunio i gyd-fynd â gwaith a bywyd
  • Astudio o unrhyw le yn y byd, gyda chymuned ddysgu fyd-eang
  • Cyfuno dysgu academaidd ag ymarfer personol
  • Datblygu sgiliau ymarferol i gymhwyso dulliau myfyriol mewn gwahanol gyd-destunau
  • Wedi'i seilio ar theori, ymchwil ac ymarfer myfyriol
  • Opsiynau astudio hyblyg, o ficro-gymwysterau annibynnol i raddau Meistr llawn
  • Yn gymwys ar gyfer Cynllun Benthyciadau Ôl-raddedig y DU (rhaglenni Meistr)

Mae'r rhaglenni'n dechrau ym mis Medi 2026

Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sydd â graddau israddedig neu ôl-raddedig, yn ogystal â'r rhai sydd â phrofiad proffesiynol, ymarferol neu fywyd perthnasol. Anogir ceisiadau o'r DU ac yn rhyngwladol.


Mae cyfanswm y ffi ar gyfer y radd Meistr ar-lein tair blynedd hon yn ddim ond £10,000 ar gyfer myfyrwyr y DU a rhyngwladol. Mae'r gost yn cael ei rhannu dros dair blynedd y cwrs, gan ganiatáu i chi dalu mewn rhandaliadau cyfleus drwy gydol eich astudiaethau.


Am fanylion llawn y cwrs a sut i wneud cais, ewch i:


MA Seicoleg Myfyriol: Ymwybyddiaeth Ofalgar a Thosturi

MA Dulliau Myfyriol Cymhwysol: Ymwybyddiaeth Ofalgar a Thosturi

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.



Dymuniadau gorau,

Dr Gemma Griffith


Cyfarwyddwr Rhaglenni Ôl-raddedig CMRP, Cyd-gyfarwyddwr, CMRP

Dr Sophie Sansom


Uwch Ddarlithydd, Cyd-gyfarwyddwr, CMRP

Dr Bridgette O'Neill


Uwch Ddarlithydd, Athro / Hyfforddwr

Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn sefydliad hyfforddi athrawon cysylltiedig â Chymdeithas Dulliau Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar Prydain (BAMBA) ac yn cael ei chydnabod yn 2024 fel un sy'n rhagori ar ofynion ac fel esiampl o arfer da mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.