EIN GWELEDIGAETH:

“Gwneud rhagnodi, dosbarthu a rhoi meddyginiaethau ym mhobman yng Nghymru un haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac effeithiol, i gleifion a gweithwyr proffesiynol drwy ddull digidol."

CROESO I GYLCHLYTHYR MODDION DIGIDOL MIS MAI!

Mae Rhaglen Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd yn Electronig (ePMA) genedlaethol yn cyflymu'n fawr y mis hwn. Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yw’r diweddaraf i gyhoeddi ei fod wedi dewis Better fel ei gyflenwr system. Rydym hefyd yn dathlu'r newyddion bod y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) Gofal Sylfaenol 'arloesol' bellach ar gael mewn mwy na hanner y fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru, gan wneud pethau'n haws ac yn fwy diogel i gleifion a staff gofal iechyd. Dysgwch ragor! 

PRIF EITEM:

Trawsnewid digidol i wella gofal ysbyty i gleifion ym Mhowys 

Mae cleifion ar fin elwa ar drawsnewidiad digidol cyffrous ym Mhowys, wrth i gam mawr ymlaen gael ei gymryd tuag at ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau mwy diogel a mwy effeithlon mewn ysbytai. 

 

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) wedi dewis Better yn bartner technoleg i gefnogi’r gwaith o ddarparu Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA), a fydd yn chwyldroi’r ffordd y mae meddyginiaethau yn cael eu rheoli yn ysbytai cymunedol a lleoliadau gofal iechyd eraill y bwrdd iechyd. 

 

Bydd y system ddigidol newydd hon yn symleiddio rhagnodi drwy leihau’r broses bapur mewn ysbytai, gan ryddhau amser clinigwyr. Bydd ePMA yn helpu i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chasglu’n gywir, ei bod yn gyfredol a’i bod ar gael yn rhwydd, a fydd yn lleihau’r risg o gamgymeriadau meddyginiaeth ac yn gwella gofal cleifion. 

 

Mae gweithredu ePMA yng Nghymru yn rhan allweddol o’r rhaglen Moddion Digidol genedlaethol, a arweinir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) ac a gefnogir ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru. 

 

Dywedodd Dr Kate Wright, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Trwy symud i system gwbl ddigidol ar gyfer rhagnodi a rheoli meddyginiaeth yn ysbytai Powys, byddwn yn gallu gwella diogelwch cleifion a symleiddio prosesau ar gyfer staff. Rwy’n falch iawn bod y prosiect hwn yn cael ei gyflwyno ledled Powys ac rwy’n ddiolchgar am y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru.” 

 

Bydd y rhaglen ePMA yn darparu nifer o fanteision i gydweithwyr a chleifion, megis mynediad 24/7 at gofnodion digidol, llai o wallau gweinyddol, a’r gallu i archwilio gweithgarwch rhagnodi a gweinyddu.

Dywedodd Dr Lesley Hewer, Cadeirydd Rhaglen Genedlaethol ePMA IGDC: “Mae’r staff clinigol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi gweithio’n galed gyda’u cydweithwyr digidol i sicrhau bod y system sydd fwyaf addas ar gyfer yr anghenion yn cael ei dewis. Bydd y system ddigidol newydd yn helpu i wella diogelwch cleifion drwy leihau gwallau meddyginiaeth ac yn ein helpu i leihau ein defnydd o bapur, a fydd yn arbed amser wrth chwilio am siartiau a hefyd yn helpu’r amgylchedd.”  

 

Dywedodd Božidarka Radović, Cyfarwyddwr Better: “Rydyn ni wrth ein bodd cael gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i gefnogi eu taith tuag at reoli meddyginiaethau’n fwy diogel a mwy effeithlon. Drwy symleiddio prosesau a sicrhau gwybodaeth gywir, hygyrch, rydyn ni’n edrych ymlaen at gefnogi clinigwyr i ddarparu gofal mwy diogel a mwy effeithlon i gleifion ledled Powys. Rydyn ni’n gweld y cydweithio hwn fel estyniad naturiol o’n cenhadaeth i wella diogelwch cleifion a gwella ansawdd gofal."  

 

Dywedodd Prif Swyddog Fferyllol Cymru, Andrew Evans: “Mae hyn yn newyddion gwych i glinigwyr sy’n darparu gofal rhagorol ac i’r cleifion sy’n derbyn y gofal hwnnw mewn ysbytai yn ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae’r cyhoeddiad hwn yn garreg filltir bwysig arall yn rhaglen ePMA genedlaethol Cymru, a bydd yn arwain at welliannau sylweddol o ran diogelwch ac effeithlonrwydd ym mhob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth yng Nghymru.” 

 

BIAP yw’r bwrdd iechyd diweddaraf yng Nghymru i gyhoeddi partneriaeth â Better, yn dilyn cyhoeddiadau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Gallwch ddarllen rhagor am y rhaglen ePMA genedlaethol yma.


Llun: Dr Lesley Hewer, Cadeirydd Rhaglen Genedlaethol ePMA

NEWYDDION MODDION DIGIDOL

Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig 'Arloesol' bellach yn fyw yn hanner fferyllfeydd cymunedol Cymru   

Mae gwasanaeth digidol a ddisgrifiwyd gan staff gofal iechyd fel un sy'n 'arloesol' a'r 'peth gorau rydyn ni erioed wedi'i wneud' bellach ar gael mewn 50% o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru. 


Cyrhaeddodd y Rhaglen Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS), sy'n cael ei harwain gan IGDC ac sy'n gwneud y broses bresgripsiynu'n haws ac yn fwy diogel i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, y garreg filltir y mis hwn wrth i'r broses o'i chyflwyno'n raddol i bob cymuned yng Nghymru ennill momentwm.  


Mae EPS yn cynnwys teclyn olrhain presgripsiynau sy'n caniatáu i staff fferyllfeydd a meddygon teulu weld bob amser ble mae presgripsiwn. Nid yw’n bosibl gwneud hynny gyda phresgripsiynau papur.  


Dywedodd y fferyllydd Steffan John o Fferyllwyr Llyn ym Mlaenau Ffestiniog, Gwynedd: “Mae EPS wedi bod yn newid enfawr er gwell i’r fferyllfa ac wedi arbed cymaint o amser yn barod. Nid oes rhaid i ni bellach ffonio’r feddygfa sawl gwaith y dydd i ddod o hyd i bresgripsiynau. Mae wedi bod yn arloesol, mewn gwirionedd.” 


Mae pob un o'r saith cyflenwr system fferyllfa gymunedol ledled Cymru ac un system meddyg teulu yn cefnogi cyflwyno EPS. Dechreuodd Fferyllwyr Llyn ddefnyddio EPS ym mis Medi 2024 gan ddefnyddio meddalwedd Cofnodion Meddyginiaeth Cleifion (PMR) Titan Invatech. 


Ychwanegodd Steffan: “Mae ein cleifion wedi sylwi ar y gwahaniaeth yn fawr ac wedi cael eu synnu gan faint yn gyflymach y gall fod. Does dim rhaid iddyn nhw ddod â darn o bapur draw atom, ac erbyn iddyn nhw gyrraedd ein fferyllfa ni mae eu presgripsiwn wedi'i ddosbarthu ac yn aros ar y silff. 


“Mae defnyddio Titan PMR ac EPS wedi caniatáu inni gael dosbarthfa ddi-bapur. Caiff presgripsiynau eu gwirio'n glinigol ar y sgrin, sy'n cynhyrchu rhestr ddewis ar gyfer staff dosbarthu ar ddyfais llaw. Yna cynhyrchir labeli trwy sganio cod bar y cynnyrch. Mae'r broses yn gwbl ddi-bapur gan fod yr hawlio’n cael ei wneud yn electronig hyd yn oed.” 


Dywedodd Simon Nelson, fferyllydd a pherchennog Fferyllfa Nelson yn Nhredegar, Blaenau Gwent, sy'n defnyddio meddalwedd Rheolwr Fferyllfa Cegedim Rx: “I’r fferyllfa, mae gymaint yn haws oherwydd nawr mae gwelededd ac olrheinedd llawn i’r meddyg teulu, y fferyllfa ac i’r claf ynghylch ble mae eu presgripsiwn ar unrhyw adeg benodol. 


“Mae cleifion wedi synnu o glywed y gallant nawr gael eu presgripsiwn wedi’i anfon yn electronig yn lle gorfod rhedeg o gwmpas amdano. I'r feddygfa, maen nhw'n arbed amser ac ymdrech oherwydd does dim papur. Mae'r meddyg yn llofnodi'r presgripsiynau hynny'n electronig. I'r fferyllfa, rydym yn eu derbyn yn electronig ac i'r claf mae'n broses llawer mwy di-dor a gallant fod yn llawer mwy sicr o ble mae eu presgripsiwn ar unrhyw adeg benodol.” 


Mae EPS yn nodi un o'r newidiadau mwyaf ers degawdau i'r ffordd y mae GIG Cymru yn rheoli presgripsiynau, ac mae'n dod â nifer o fanteision i gleifion, staff gofal iechyd a'r amgylchedd. Mae'r rhain yn cynnwys llai o alwadau rhwng y fferyllfa a'r feddygfa, sy’n symudiad tuag at leihau'r angen i argraffu presgripsiynau ac arbed teithiau i gleifion a staff. 

 

Mae'r gwasanaeth ar gael mewn mwy na 15% o feddygfeydd teulu, ffigur sy'n cynyddu bob wythnos. Mae hefyd ar gael gan 75% o gontractwyr offer dosbarthu, sy'n dosbarthu offer a chyfarpar meddygol a roddir ar bresgripsiwn. Mae IGDC yn gweithio gyda byrddau iechyd, meddygfeydd teulu a fferyllfeydd i sicrhau bod EPS ar gael ledled Cymru mor gyflym a diogel â phosibl. 


Darllenwch y stori lawn a darganfod mwy am EPS yma


Llun 1: Simon Nelson, Fferyllwyr Nelson


Llun 2 (o'r chwith i'r dde): Llyr Hughes a Steffan John, Fferyllwyr Llyn.

Fferyllfeydd EPS-fyw: Mae angen chi ar GIG Lloegr! 

Mae GIG Lloegr yn cynnal astudiaeth beilot i brofi teclyn newydd ar gyfer olrhain presgripsiynau EPS ac mae'n chwilio am fferyllfeydd lle mae EPS ar gael i helpu. Bydd y cynllun peilot yn rhedeg am oddeutu chwe wythnos ym mis Mai a mis Mehefin a bydd yn gwasanaethu fel prawf ar raddfa fach ar gyfer ymchwil bellach. 

 

Mae'r cynllun peilot yn cynnwys siarad ag ymchwilydd am tua 45-60 munud, gyda'r posibilrwydd o ymweliad pellach â'ch safle. Os yw EPS ar gael yn eich fferyllfa ac os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, llenwch y ffurflen mynegi diddordeb yma

Cadwch lygad ar bopeth sy'n ymwneud â Moddion Digidol 

I gael gwybod mwy am ePMA ac EPS ac i gael y newyddion diweddaraf, beth am roi nod tudalen ar ein tudalennau gwe Moddion Digidol   

DIGWYDDIADAU AC YMGYSYLLTU 

Ymgysylltiad rhagorol yn sioe deithiol ePMA ysbytai Bwrdd Iechyd

Prifysgol Aneurin Bevan 

Cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) sioe deithiol ePMA rhwng 28 Ebrill a 2 Mai, gan gynnig cyfle gwerthfawr i arddangos caledwedd i gydweithwyr a darparu arddangosiadau byw o'r system ePMA.    

Croesawodd y digwyddiad wythnos o hyd ar draws pum safle ysbyty fwy na 500 o aelodau staff o ystod amrywiol o gefndiroedd clinigol ac anghlinigol. Roedd yr adborth gan y mynychwyr yn hynod gadarnhaol, gyda nifer sylweddol yn dewis cofrestru i ddod yn Hyrwyddwyr Digidol i chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi gweithrediad ehangach y rhaglen.  


Gofynnwyd nifer o gwestiynau yn y digwyddiadau, ac aethpwyd i’r afael â phryderon hefyd. Roedd y rhain yn cynnwys nodi'r meysydd clinigol penodol sydd angen mwy o ymgysylltiad er mwyn deall prosesau presennol yn well.  


Cefnogwyd y sioe deithiol gan staff o ddarparwr offer BIPAB, Kinetic-ID, a ddangosodd a chasglodd adborth defnyddwyr ar galedwedd ePMA, a phartner meddalwedd BIPAB Better, y mae ei dîm wrth law i ateb cwestiynau. Hefyd, ymunodd cydweithwyr o'r sectorau cymdeithasol ac economaidd asiantaeth datblygu Cwmpas â'r tîm ePMA i gynnal holiaduron llythrennedd digidol, a fydd yn helpu i lunio cynlluniau hyfforddi staff. 


Llun 1: Tîm ePMA Gofal Eilaidd Cenedlaethol gyda chydweithwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Better UK.


Llun 2 (o'r chwith i'r dde): James Goddard, Arweinydd e-Ragnodi Ysbytai yn IGDC, a Robert Weller, Fferyllydd ePMA ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.


Sesiwn galw heibio parodrwydd i fynd yn fyw gydag EPS 

Mae IGDC yn cynnal sesiwn galw heibio ddiwedd y mis ar gyfer contractwyr fferyllol sydd eisiau gwybod mwy am y broses parodrwydd i fynd yn fyw gydag EPS.  Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar y gweithgareddau parodrwydd sy’n ofynnol, yr hyn sydd angen i gontractwyr ei wneud, a pha mor hir y mae’r broses yn ei chymryd. Mae croeso i bob contractwr nad yw eto wedi mynd yn fyw gydag EPS.   



Cynhelir y sesiwn drwy Microsoft Teams ddydd Mercher, Mai 28 am 7:30-8:30pm a bydd amser i ofyn cwestiynau yn dilyn y cyflwyniad. Anfonwch e-bost i pc.eps@wales.nhs.uk os hoffech dderbyn gwahoddiad. 


Darllenwch rifynnau blaenorol ein cylchlythyr 

Os ydych chi wedi methu rhifynnau blaenorol y cylchlythyr Moddion Digidol, peidiwch â phoeni, oherwydd gallwch chi ddal i fyny trwy fynd i’n harchif. 


Ewch i waelod ein tudalen hafan, i’r adran ‘Darllenwch ein cylchlythyrau blaenorol’. Mae’r archif yn mynd yn ôl i 2022, pan gafodd y rhaglenni Moddion Digidol eu sefydlu, felly mae digon o ddeunydd darllen yno i chi! 


Ymunwch â’n Cymuned Gwybodaeth a Gweithredu ePMA 

Mae ymgysylltu a chydweithio yn allweddol wrth gyflwyno a pharatoi ePMA yn ein hysbytai yng Nghymru, ac mae ein cyfarfodydd Cymuned Gwybodaeth a Gweithredu (CoKA) yn fforwm cyfeillgar a chefnogol i staff iechyd rannu gwybodaeth a dysgu oddi wrth ei gilydd. Cynhelir y cyfarfodydd nesaf ar Mehefin 19 a Gorffennaf 17 a gallwch gofrestru neu gael rhagor o wybodaeth drwy anfon e-bost i DHCW.ePMA@wales.nhs.uk. 

Cofrestrwch i dderbyn newyddion am EPS  

Mae Cadeirydd Goruchwylio’r Rhaglen EPS Gofal Sylfaenol, Jenny Pugh-Jones, yn ysgrifennu bwletin misol ar gyfer meddygon teulu, fferyllwyr cymunedol a dosbarthwyr gyda’r holl newyddion diweddaraf am bresgripsiynau electronig, gan gynnwys cyfeirio at ganllawiau defnyddiol i ddefnyddwyr. Gallwch ymuno â'r rhestr bostio yma. 

Moddion Digidol

Mae Moddion Digidol yn gwneud presgripsiynu, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon ac effeithiol ar gyfer cleifion a gweithwyr proffesiynol, a hynny drwy systemau digidol. Mae’n dwyn ynghyd y rhaglenni a’r prosiectau a fydd yn cyflawni buddion dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru.

 

Os hoffech wybod mwy am ein gwaith neu os oes gennych awgrym ynglŷn â sut y gallwn ymgysylltu â chi, rhowch wybod i ni.

E-bost: DigitalMedicines.Comms@wales.nhs.ukewch i’n tudalennau gwe neu dilynwch IGDC ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Facebook  Instagram  LinkedIn  X  YouTube
X Share This Email
LinkedIn Share This Email