Lansiwyd partneriaeth i rannu arloesiadau iechyd digidol ac i gyrchu llwyfannau sector iechyd a gofal GIG Cymru.
Crëwyd rhwydwaith Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (DHEW) yn sgil cydweithrediad rhwng Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a gynorthwyir gan Raglen Effeithlonrwydd trwy Dechnoleg Llywodraeth Cymru.
Cynhelir y prosiect tan fis Mawrth 2020 ac mae'n cynnwys datblygu meddalwedd gan y Gwasanaeth Gwybodeg, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid gan yr Hwb Gwyddorau Bywyd, trwy gyfres o ddigwyddiadau a chyfarfodydd rhannu gwybodaeth.
Ei nod allweddol yw creu rhwydwaith genedlaethol, neu 'ecosystem', i gyflwyno ffyrdd newydd i wella lles ac ansawdd gofal, trwy ddatblygu cymwysiadau a gwasanaethau digidol.
Rôl y Gwasanaeth Gwybodeg yn y cydweithrediad hwn yw darpar lwyfan technegol.
Mae'r ecosystem yn darparu llwybr i fanteisio ar arbenigedd y GIG, a llwyfan technegol i ganiatáu partneriaid masnachol cymeradwy i gyrchu fersiynau arddangos o GIG Cymru a systemau eraill.
Caiff mynediad at bensaernïaeth GIG Cymru ei gyflwyno mewn camau cynyddol ac fe'i cyflwynir trwy ryngwyneb seiliedig ar y rhyngrwyd i alluogi datblygwyr meddalwedd ledled y byd i gysylltu eu systemau.
Mae'r cwmni meddalwedd gofal iechyd, GCL, sydd wedi'i leoli yn Abertawe, eisoes wedi adrodd y bu modd iddo integreiddio yn API GIG Cymru mewn llai na 24 awr.
Darllenwch fwy am yr Ecosystem Iechyd Digidol ar wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru neu ysgrifennwch at [email protected] i gael mwy o wybodaeth.