June 2018
Looking back and looking ahead    
 
It's been more than twenty years since the first Laboratory Information Management systems were introduced into pathology departments in NHS Wales; more than thirty since GP in Wales started using computers and the patient administration systems were used in Welsh hospitals; and more than forty since IT systems were used by children's health clinicians in Wales.
 
This summer, as we celebrate our NHS turning 70, we're taking a look back at how information technology has played a part in improving patient care over time.    
 
Recently, our Nursing Lead, Fran Beadle, met with retired nurse Jackie Warman to find out how technology has made a difference to nursing over the last few decades.
 
"I think making documentation digital will give the nurses a lot more time to spend with the patient as they won't have to write things out in longhand," Jackie says.
 
Watch the video on our YouTube pages  to find out more about the changes and the digitisation of nursing documentation project. 
 
Also, visit our website's Technology Timeline and learn more about the evolution of digital healthcare in Wales - from the first computer networks to link Welsh hospitals to the growth of the Welsh Clinical Portal.   
 
   
National Point of Care Test system introduced
 
A new Welsh Point of Care Test (WPOCT) system has been introduced by NHS Wales Informatics Service in partnership with Siemens.
 
The system, which is currently live in Cardiff and Vale, Abertawe Bro Morgannwg and Hywel Dda health boards, means patient test results will now be accessible for clinicians on a range of devices via the Welsh Clinical Portal.
 
It is targeted to be implemented in all health boards in Wales by the end of the year.
 
Point-of-care testing allows healthcare professionals to carry out diagnostic or laboratory testing at or near the site of patient care. Its use means that results can be received and processed much quicker than in a medical laboratory.  
 
There are currently around a thousand active devices across the live health boards in Wales and over 500,000 test results have so far been processed. The final system is expected to connect around 2500 devices in secondary care.
 
Once collected, the results are sent to the Welsh Clinical Portal and are accessible for clinicians across Wales.  
 
The system also allows healthcare professionals (on some devices) to perform a positive identity check on individual patients, minimising the risk of manual errors and improving patient safety.  
 
Following its implementation in secondary care, phase two of the project will seek to begin the process to roll out to primary care in 2019.
Skype used in GP practices to link colleagues and clinicans
 
A recent article in PublicTechnology.net focuses on how Skype for Business is being used in Primary Care to help GP surgeries improve communication.

"As practice managers, the ability to get people's opinions is very valuable, but we are quite isolated in our roles," says Gareth Thomas in the article, Business Manager for four NHS GP surgeries in Gwent. "[Skype is] an extremely useful and powerful tool. It gives me the ability to have face-to-face discussions, and through the course of each day, it's now used by admin staff and managers."


Skype was introduced to GP surgeries last year as part of an upgrade to the NHS Wales national infrastructure with technical support and advice provided by NHS Wales Informatics Services. Skype is currently rolling out to all GP surgeries in Wales.
A Healthier Wales 
 
In a recent report entitled "A Healthier Wales: Our Plan for Health and Social Care," unveiled by Health Secretary Vaughan Gething, the Welsh Government sets out its vision of how the NHS and social care in Wales can be sustainable when demand for its services has never been higher.

The service of the Welsh informatics community was highlighted several times. For example, the report says, "ensuring that the relevant information is accurate, complete, up to date, and shared between everyone responsible for the individual's care and treatment will make services safer and more effective. This will help patients to access the services that match their needs."

The report adds, "digital technologies will support better clinical decisions, by filtering and interpreting information about the individual, and groups of similar individuals, and by predicting outcomes for different treatments. This will help to prioritise and speed up treatment, and it will help the individual to work more closely with professionals, so that their care is personalised to their own needs and preferences with more predicable outcomes."

Read the entire report on the Welsh Government website.
Think Cloud!
 
The use of Cloud storage and other services is growing rapidly across both the private and public sector, bringing significant benefit to those who use it.
 
Cloud Computing can offer greater flexibility and access to information outside of the usual networks. It can provide up-to-date, robust cybersecurity, while reducing the reliance on scarce internal specialised IT skills.
 
To help NHS Wales make the move towards Cloud, and encourage its use alongside more traditional software and infrastructure tools, a new guide has been developed for project teams to use. The guide combines the detailed step by step Cloud guidance recently published by NHS Digital, with an NHS Wales-specific approval process to ensure a consistent approach across NHS Wales organisations.  
 

Service Desk achieves certification for excellence
 
Our Service Desk - which handles thousands of incidents and requests every month across NHS Wales -  has passed a Service Desk Institute Certification Audit.

The certificate shows we're commited to delivering excellent customer service, a high standard of support and commited to continually improve the services we offer to our customers.

The Service Desk is committed to making sure calls are answered and incidents resolved as quickly as possible. In the month of May 2018, it logged more than 20,000 incidents and service requests and achieved an overall customer satisfaction percentage of more than 90%.
The challenge of data in health and care
 
Earlier this month, we met with One HealthTech to discuss how we manage, use and share health and care data at an event in Cardiff Bay.

One HealthTech is a global community bringing together diverse leaders and experts in healthcare technology.

It aims to celebrate and promote innovation by championing greater inclusivity and representation within the field.

June's event marked the first One HealthTech session in Wales and included talks from our Associate Medical Director of Primary Care, Anne Marie Cunningham and our Director of Information, Helen Thomas.

The evening also featured guest speakers from a number of health tech organisations, including Signum Health, the Centre for Trials Research at Cardiff University, WePredict, Valleys to Coast and Aneurin Bevan Continuous Improvement.

Key topics of discussion included the opportunities and potential of health informatics, the challenges of sharing information and personal data in public services and improving healthcare through more advanced evaluation of data.

Helen Thomas also noted the ongoing work within the Informatics Service to develop the skills required to realise the full value of the data we hold.

"There's lots of great work going on to develop the talent of the future and nurture the talent we have now," she said. "Our staff today are our staff for the future. I truly believe that with the right level of investment and support, informatics and technology is essential to the future of the NHS."
New opportunities for work-based learning now available
 
The Welsh Government has released funding for a number of apprenticeships in health informatics through the Wales Institute for Digital Information (WIDI).

A Higher Apprenticeship (level 4) and a Digital Degree Apprenticeship (levels 4 to 6) are now available for people looking to progress a career in health IT.

The level 4 apprenticeship, which is delivered by Coleg Sir Gar, is open to those currently working in or new to health informatics. The programme is designed to provide clear progression routes into a wide range of roles where information handling is a key responsibility.

The degree apprenticeship is delivered through WIDI's partnership with the University of Wales Trinity Saint David in Swansea and consists of one day per week at university and four work-based days with an employer. Students can select from three pathways, including Applied Software Engineering, Applied Data Science and Applied Cyber Security Management.

Health informatics is fundamental to the safe delivery of modern patient care. WIDI's aim is to create opportunities for informatics in Wales and nurture new and developing talent.

For further information about the apprenticeship schemes available through WIDI, please contact [email protected].

Mehefin 2018
Edrych yn ôl ac edrych ymlaen   
 
Mae dros ugain mlynedd wedi bod ers cyflwyno'r systemau Rheoli Gwybodaeth Labordai cyntaf mewn adrannau patholeg yn GIG Cymru; dros dri deg mlynedd ers i feddygon teulu yng Nghymru ddechrau defnyddio cyfrifiaduron, a defnyddio systemau gweinyddu cleifion mewn ysbytai yng Nghymru; a dros bedwar deg mlynedd ers i systemau TG gael eu defnyddio gan glinigwyr iechyd plant yng Nghymru.
 
Yr haf hwn, wrth i ni ddathlu pen-blwydd ein GIG yn 70 oed, rydym yn edrych yn ôl ar sut mae technoleg gwybodaeth wedi helpu i wella gofal cleifion dros y blynyddoedd.
 
Yn ddiweddar, aeth ein Harweinydd Nyrsio, Fran Beadle, i gwrdd â nyrs wedi ymddeol, Jackie Warman, i weld sut mae technoleg wedi gwneud gwahaniaeth i faes nyrsio dros y degawdau diwethaf.
 
"Dw i'n meddwl y bydd digido dogfennau yn rhoi mwy o amser i nyrsys gyda'r cleifion, gan na fydd angen ysgrifennu pethau mewn ffordd hirwyntog," meddai Jackie.
 
Gwyliwch y fideo ar ein tudalennau YouTube  i ddysgu mwy am y newidiadau a'r prosiect digido dogfennau nyrsio. 
 
Hefyd, ewch i'r Llinell Amser Technoleg ar ein gwefan a dysgwch fwy am esblygiad gofal iechyd digidol yng Nghymru - o'r rhwydweithiau cyfrifiadurol cyntaf a gysylltodd ysbytai yng Nghymru â thwf Porthol Clinigol Cymru
.      
Cyflwyno system Profion Pwynt Gofal cenedlaethol 
 
Cyflwynwyd system Profion Pwynt Gofal Cymru gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru mewn partneriaeth â Siemens.
 
Mae'r system, sydd ar waith ym myrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda ar hyn o bryd, yn golygu y bydd modd i glinigwyr weld canlyniadau profion cleifion ar ystod o ddyfeisiau trwy Borthol Cleifion Cymru.
 
Y targed yw ei gyflwyno ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru erbyn diwedd y flwyddyn.
 
Mae profion pwynt gofal yn galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gynnal profion diagnostig neu labordy ar safle gofal y claf, neu gerllaw. Mae'n golygu y gellir derbyn a phrosesu'r canlyniadau yn llawer cynt na mewn labordy meddygol.  
 
Ar hyn o bryd, mae tua mil o ddyfeisiau ar waith yn y byrddau iechyd yng Nghymru sy'n defnyddio'r system, a phroseswyd dros 500,000 o ganlyniadau profion hyd yma. Disgwylir i'r system derfynol gysylltu tua 2500 o ddyfeisiau ym maes gofal eilaidd.
 
Pan fydd y canlyniadau wedi'u casglu, byddant yn cael eu hanfon at Borthol Clinigol Cymru, ac mae modd i glinigwyr ledled Cymru eu gweld.  
 
Hefyd, mae'r system yn galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (ar rai dyfeisiau) i wneud gwiriad hunaniaeth cadarnhaol ar gleifion unigol, gan leihau'r risg o gamgymeriadau dynol a gwella diogelwch cleifion.  
 
Ar ôl ei gyflwyno ym maes gofal eilaidd, bydd ail gam y prosiect yn ceisio dechrau'r broses o gyflwyno'r system ym maes gofal sylfaenol yn 2019. 
Defnyddio Skype mewn meddygfeydd teulu i gysylltu cydweithwyr a chlinigwyr
 
Mae erthygl ddiweddar ar PublicTechnology.net yn sôn am sut mae Skype for Business yn cael ei ddefnyddio ym maes Gofal Sylfaenol i helpu meddygfeydd teulu i wella eu ffyrdd o gyfathrebu.  
 
"Fel rheolwyr practisau, mae gallu casglu barn pobl yn werthfawr iawn, ond rydym yn eithaf ynysig yn ein rolau," meddai Gareth Thomas yn yr erthygl, sy'n Rheolwr Busnes mewn pedair meddygfa deulu yng Ngwent. "[Mae Skype yn] offeryn defnyddiol a phwerus dros ben. Mae'n fy ngalluogi i gael trafodaethau wyneb yn wyneb, ac mae staff gweinyddol a rheolwyr bellach yn ei ddefnyddio yn eu gwaith bob dydd."
 
Darllenwch yr erthygl ar wefan PublicTechnology.net.
 
Cyflwynwyd Skype i feddygfeydd teulu y llynedd fel rhan o ddiweddariad i seilwaith cenedlaethol GIG Cymru, gyda Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru'n darparu cyngor a chymorth technegol. Ar hyn o bryd mae Skype yn cael ei gyflwyno i'r holl feddygfeydd teulu yng Nghymru.
Cymru Iachach   
 
Mewn adroddiad diweddar, sef "Cymru Iachach: Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol," a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething, mae Llywodraeth Cymru'n nodi ei weledigaeth ar gyfer sut gall y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru fod yn gynaliadwy mewn adeg pan mae'r galw am ei wasanaethau yn uwch nag erioed.

Cafodd gwasanaeth y gymuned wybodeg yng Nghymru ei amlygu sawl gwaith. Er enghraifft, mae'r adroddiad yn dweud, "drwy sicrhau bod y wybodaeth berthnasol yn gywir, yn gyflawn, yn gyfoes ac yn cael ei rhannu rhwng pawb sy'n gyfrifol am ofal a thriniaeth unigolion, bydd gwasanaethau'n fwy diogel ac effeithiol. O ganlyniad, bydd cleifion yn cael cymorth i gyrraedd at y gwasanaethau sy'n addas ar gyfer eu hanghenion."

Mae'r adroddiad yn ychwanegu, "bydd technolegau digidol yn helpu i sicrhau gwell penderfyniadau clinigol, drwy hidlo a dehongli gwybodaeth am yr unigolyn, a grwpiau o unigolion tebyg, a rhagweld canlyniadau ar gyfer gwahanol driniaethau. Bydd hyn yn helpu i flaenoriaethu a chyflymu triniaeth ac yn helpu'r unigolyn i gydweithio'n agosach gyda gweithwyr proffesiynol, fel bod eu gofal yn ateb eu gofynion a'u dewisiadau personol eu hunain, gyda chanlyniadau a gellir eu rhagweld."

Darllenwch yr adroddiad cyfan ar wefan Llywodraeth Cymru.
Canolbwyntio ar y Cwmwl!
 
Mae defnyddio storio cwmwl a gwasanaethau eraill yn tyfu'n gyflym ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus, ac mae'r rhai sy'n ei ddefnyddio'n elwa'n sylweddol.
 
Gall cyfrifiadura'r cwmwl gynnig mwy o hyblygrwydd a mynediad at wybodaeth y tu hwnt i'r rhwydweithiau arferol. Gall ddarparu'r seiber-ddiogelwch cadarn diweddaraf, gan ostwng y ddibyniaeth ar sgiliau TG arbenigol mewnol prin.
 
I helpu'r GIG i symud tuag at y cwmwl, ac annog pobl i'w ddefnyddio ar y cyd â meddalwedd ac offer seilwaith mwy traddodiadol, datblygwyd canllaw newydd i dimau prosiect ei ddefnyddio. Mae'r canllaw yn cyfuno'r arweiniad cwmwl cam wrth gam manwl a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan NHS Digital, gyda phroses gymeradwyo benodol ar gyfer y GIG er mwyn sicrhau bod dull cyson yn cael ei ddefnyddio ar draws sefydliadau'r GIG.  
 
Mae'r arweiniad ar gael i'w lawrlwytho o'n gwefan
Y Ddesg Wasanaethu'n ennill ardystiad rhagoriaeth
 
Mae ein Desg Wasanaethu - sy'n delio â miloedd o achosion a cheisiadau bob mis ar draws GIG Cymru - wedi pasio Archwiliad Ardystio'r Sefydliad Desgiau Gwasanaethu.

Mae'r dystysgrif yn dangos ein bod yn ymrwymo i gyflwyno gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol, cymorth o safon uchel ac yn ymrwymo i barhau i wella'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig i'n cwsmeriaid.
 
Mae'r Ddesg Wasanaethu'n ymrwymo i sicrhau bod galwadau'n cael eu hateb a digwyddiadau'n cael eu datrys cyn gynted â phosibl. Ym mis Mai 2018, cofnododd dros 20,000 o ddigwyddiadau a cheisiadau gwasanaethau, a cafodd ganran boddhad cwsmeriaid o dros 90% ar y cyfan.

Her data ym maes iechyd a gofal
 
Yn gynt yn y mis, cawsom gyfarfod gyda One HealthTech i drafod sut rydym yn rheoli, defnyddio ac yn rhannu data iechyd a gofal mewn digwyddiad ym Mae Caerdydd.

Mae One HealthTech yn gymuned fyd-eang sy'n dod ag arbenigwyr ac arweinwyr amrywiol o faes technoleg gofal iechyd ynghyd. Ei nod yw dathlu a hyrwyddo arloesedd trwy geisio annog mwy o gynhwysiant a chynrychiolaeth o fewn y maes.

Y digwyddiad ym mis Mehefin oedd y sesiwn One HealthTech gyntaf yng Nghymru, ac roedd yn cynnwys sgyrsiau gan ein Cyfarwyddwr Meddygol Cysylltiol ar gyfer Gofal Sylfaenol, Anne Marie Cunningham a'n Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth, Helen Thomas.

Roedd y noson hefyd yn cynnwys siaradwyr gwadd o nifer o sefydliadau technoleg iechyd, gan gynnwys Signum Health, y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, WePredict, Valleys to Coast a Gwelliant Parhaus Aneurin Bevan.

Roedd y pynciau trafod allweddol yn cynnwys cyfleoedd a photensial gwybodeg iechyd, heriau rhannu gwybodaeth a data personol mewn gwasanaethau cyhoeddus, a gwella gofal iechyd trwy werthuso data mewn ffordd fwy datblygedig.

Hefyd, soniodd Helen Thomas am waith parhaus y Gwasanaeth Gwybodeg i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i wireddu gwir werth y data yn ein meddiant.

"Mae llawer o waith gwych yn cael ei wneud i ddatblygu doniau'r dyfodol, a meithrin y talentau sydd gennym ni yn awr," dywedodd. "Ein staff ni heddiw yw ein staff yn y dyfodol. Dw i wir yn credu bod gwybodeg a thechnoleg yn hanfodol i ddyfodol y GIG gyda'r lefel gywir o fuddsoddiad a chymorth."

Cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu yn y gwaith ar gael yn awr
 
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau cyllid ar gyfer nifer o brentisiaethau gwybodeg iechyd trwy Athrofa Wybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI).
 
Mae Prentisiaeth Uwch (lefel 4) a Phrentisiaeth Gradd Ddigidol (lefelau 4 i 6) bellach ar gael i bobl sydd eisiau dilyn gyrfa mewn TG iechyd.
 
Mae'r brentisiaeth lefel 4, a gyflwynir gan Goleg Sir Gâr, ar agor i'r rhai sy'n gweithio ym maes gwybodeg iechyd ar hyn o bryd, neu sy'n newydd i'r maes. Dyluniwyd y rhaglen i ddarparu llwybrau cynnydd clir i ystod eang o rolau lle mae trin gwybodaeth yn gyfrifoldeb allweddol.
 
Cyflwynir y brentisiaeth gradd trwy bartneriaeth WIDI â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe, ac mae'n cynnwys un diwrnod yr wythnos yn y brifysgol a phedwar diwrnod yn y gwaith gyda chyflogwr. Gall myfyrwyr ddewis o dri llwybr, gan gynnwys Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol, Gwyddoniaeth Data Gymhwysol a Rheoli Seiber-ddiogelwch Gymhwysol.
 
Mae gwybodeg iechyd yn hanfodol i gyflenwi gofal cleifion modern diogel. Nod WIDI yw creu cyfleoedd i wybodeg yng Nghymru a meithrin talent newydd a datblygol.
 
Am ragor o wybodaeth am y cynlluniau prentisiaeth sydd ar gael trwy'r WIDI, cysylltwch â [email protected].
.