May 2019
NHS Wales Informatics Service is proud to deliver our e-newsletters bilingually each month.
If you would like to have your e-newsletter  with Welsh as the language at the top of the page, 
Pharmacy sore throat pilot promotes appropriate antibiotic use 
 
A pilot service to assess and manage sore throats in community pharmacies, including an on-the-spot sore throat swab, promotes more efficient use of antibiotics among patients in parts of Wales, according to initial results.
 
The Sore Throat Test & Treat Service (STTT) is being piloted as part of the Common Ailment Scheme, which encourages patients to visit their community pharmacy instead of their GP for common ailments.
 
A total of 53 community pharmacies are taking part in the scheme so far - 30 in Betsi Cadwaladr University Health Board and 23 in Cwm Taf Morgannwg University Health Board.
 
Pharmacists taking part in the pilot assess patients' symptoms by undertaking a sore throat assessment, including a simple throat swab test to determine if symptoms are caused by a bacterial infection. The results of the test are available in minutes. If a bacterial infection is present and the patient can be helped by antibiotics, they can be supplied by the pharmacist. 

Education that bacterial infections usually go away without antibiotics is also part of the service, and some patients choose to not take antibiotics even if the throat swab shows positive results.
 
More than 80% of the 1,000 patients who took part in the pilot between November and January were advised they did not need any antibiotics.
 
"We are pleased that initial evaluation showed such promising results for the new STTT service, says Efi Mantzourani, NWIS Research and Evaluation Lead and Senior Lecturer in Pharmacy Practice in Cardiff University. "We will continue to analyse data for at least one year to see how seasonal variations may affect the service, and we will investigate whether there is a reduction in consultation rates across primary care for sore throat, as the data we have so far is only self-reported."

The service has been nominated in the Fourth I nternational Antibiotic Guardian Awards, hosted by Public Health England, recognising achievements to combat antimicrobial resistance across the world. The awards will be announced on June 27th in Birmingham.
One digital x-ray and imaging system now national 
 
All health boards and hospitals in Wales are now using one common system for digital x-rays, scans and images.

Cardiff and Vale is the final health board to move over to the NHS Wales' picture archiving and communications system (PACS). This means all seven Welsh health boards now use the mainstream imaging service, supplied by Fujifilm through a framework contract.

PACS technology allows images such as x-rays and scans to be stored electronically and viewed on screen, so that doctors and other health professionals can view and analyse them.

Digital imaging has been used in Welsh hospitals for many years and has improved the speed and effectiveness of diagnosis. Introduction of a common imaging solution avoids problems in compatibility between different imaging systems, ensuring the technology's full benefits are realised.

Andrew Griffiths, Director NHS Wales Informatics Service, said: "I am very pleased to see the NHS Wales imaging solution go live in Cardiff and Vale, which is home to our largest acute hospital. 

"Use of a common compatible service delivers significant savings, and will make it easier to share images between hospitals," Griffiths adds. "This is a milestone in delivering a mainstream PACS service for Wales."
WHCIP set to launch  
 
Our Information Services team is developing a portal that will be the single point of access for our health and care intelligence products and data. 
 
The new Welsh Health and Care Intelligence Portal (WHCIP) will be the central place to access data tools like the Primary Care Information Portal, Welsh Government Information Portal,  Welsh Health Data Mart and Health Maps Wales.  It will also allow access to products and services currently being developed.
 
Once implemented, the portal will be regularly updated and improved with  releases of new functionality, based on user requirements.  The portal will also host a data extract service and set out clear processes for new information services requests. WHCIP also has to the potential to provide access to data from the National Data Resource, currently being developed, that will bring together patient data using common language and technical standards.
 
WHCIP is scheduled to be available in Welsh health boards and trusts this summer.
Charting the Cardiovascular Atlas: A Q&A with Sally Cox
 
Sally Cox collects data - data that can be used to improve lives and strengthen patient care.

Recently, as NWIS Lead Publishing Specialist, Sally played a key role in the preparation of the data for an NHS Wales Cardiovascular Atlas of Variation - a Public Health Wales and NHS Wales Health Collaborative publication spotlighting cardiac issues across Wales with the aim to improve cardiovascular care. 

The atlas was produced at the request of the Welsh Government and hopes to raise questions about equity of access, effectiveness and value of the services provided by NHS Wales and act as a stimulus for transformation, innovation and delivery of evidence-based high-value cardiac services.

The document is available at www.wcn.wales.nhs.uk/caovInteractive maps and charts to support the release are available on Health Maps Wales .
 
Q: This seems to be quite a big deal. Can you tell me a bit about what this atlas is hoping to achieve?
A: What the Health Collaborative, Public Health Wales and the cardiovascular experts wanted to do is start a conversation into why there are differences - why there might be different severities of cardiovascular illness across Wales, different rates, different treatments. What they are really looking for is the presence of unwarranted variation which maybe due to the underuse of high value interventions or the overuse of low value ones and then once highlighted, discover the reasons why those variations exist.
 
Q: High and low value interventions?
Intervention basically means "treatment". High value treatments are those that provide the most benefit to the patient and these should be being used across Wales instead of treatments with limited or low value. This atlas hopes to spotlight if that's the case. The aim is for the Health Collaborative  and the experts to work with the health boards and Welsh Government to improve cardiac services based on the conclusions they make. It's very much a collaboration.
 
Q: And how do you fit in?
A: I'm part of the atlas technical working group and we received guidance from the expert reference group - the cardiologists and clinicians from across NHS Wales. They would decide what indicators they wanted to look at. They wanted to focus on three main areas: Acute Coronary Syndrome, Heart Failure and Atrial Fibrillation. As part of my role as an analyst, I have access to NHS data sets, and so my job was to collate the data, create the indicators and to do the visualisation - display it in an easily understood way.

Most of the data that was used is held in our national data warehouse, for example, the secondary care data that is collected monthly from health boards. There was also primary care data, cardiac audit data from the health boards and mortality data from the Office of National Statistics.
 
Q: Let me ask you more about the NWIS Publishing Team. Besides Welsh Government, who asks for information? What do they use it for?
People are always asking for information - researchers looking for statistics, clinicians for figures. And a lot of requests come from our own health boards. They can query their own data, but sometimes they need to see data from other health boards so they can compare their services or maybe where they are nationally.

Our publishing team tries to take that information, compile it and present it in a clear way - whether its text, a graph, a map, or interactive applications. There's a lot of crossover with our publishing team that visualises and displays this information and our NWIS Analysis Team. They deal with tons of ad hoc requests - emails and phone calls from Welsh Government, health boards, GP surgeries, everyone.
 
Q: Will there be more variation atlases, perhaps for other topics?
A: Well, Welsh Government's plan was to develop a series of variation atlases. This was the first one they wanted to do. But right now, we don't know. Let's see how this does and if it can start the conversations needed to better understand the variation across Wales and work to make a real difference in trying to drive improvement and value-based healthcare.
Shining the spotlight on Commercial Services
 
Despite being nominated, our Commercial Services Team fell just short of winning a much coveted award at this year's upcoming Go Procurement Awards in Birmingham last month - recognising the best of public procurement projects in the UK.

The team was looking to build on last autumn's success when they won three awards at the Go Award Wales event that celebrates excellence, innovation and leadership in public procurement in Wales. 

This year, the team was nominated for the GO  Innovation of the Year Award for its PROMS and PREMS work as well as the  GO Procurement Project of the Year Award for GP Framework.
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru 
yn falch o gyflwyno 
ein e-gylchlythyrau yn ddwyieithog bob mis.
Os hoffech dderbyn yr e-gylchlythyrau â'r Gymraeg ar frig y dudalen,
Mai 2019
Peilot gwasanaeth dolur gwddf mewn fferyllfeydd yn hyrwyddo defnydd priodol o wrthfiotig   
 
Mae gwasanaeth peilot i asesu a rheoli dolur gwddf mewn fferyllfeydd cymunedol, gan gynnwys swab dolur gwddf yn y fan, yn hyrwyddo defnydd mwy effeithlon o wrthfiotigau ymhlith cleifion mewn rhannau o Gymru, yn ôl canlyniadau cychwynnol.
 
Mae'r Gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf (STTT) yn cael ei beilota fel rhan o'r Cynllun Mân Anhwylderau, sy'n annog cleifion i ymweld â'u fferyllfa gymunedol yn lle eu meddyg teulu ar gyfer mân anhwylderau.
 
Mae 53 o fferyllfeydd cymunedol wedi cymryd rhan yn y cynllun hyd yn hyn - 30 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a 23 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
 
Mae'r fferyllwyr sy'n cymryd rhan yn y peilot yn asesu symptomau'r cleifion trwy gyflawni asesiad dolur gwddf, gan gynnwys prawf swab dolur gwddf syml i bennu a yw'r symptomau'n cael eu hachosi gan haint bacteriol. Mae canlyniadau'r prawf ar gael o fewn munudau. Os bydd haint bacteriol yn bresennol, a gellir helpu'r claf trwy roi gwrthfiotigau, gall y fferyllydd eu rhoi.
 
Mae addysg ynghylch y ffaith bod heintiau bacteriol fel arfer yn gwella heb unrhyw wrthfiotigau hefyd yn rhan o'r gwasanaeth, ac mae rhai cleifion yn dewis peidio cymryd gwrthfiotigau hyd yn oed os yw'r swab gwddf yn dangos canlyniadau cadarnhaol.
 
Cynghorwyd 80% o'r 1,000 o gleifion a gymerodd ran yn y peilot rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr nad oedd angen unrhyw wrthfiotigau arnynt.
 
"Rydym ni'n falch bod y gwerthusiad cychwynnol wedi dangos canlyniadau mor addawol ar gyfer y gwasanaeth STTT newydd, meddai Efi Mantzourani, Arweinydd Ymchwil a Gwerthuso Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, ac Uwch Ddarlithydd mewn Ymarfer Fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. "Byddwn ni'n parhau i ddadansoddi data am flwyddyn o leiaf, i weld sut gall amrywiadau tymhorol effeithio ar y gwasanaeth, a byddwn ni'n ymchwilio i weld a oes gostyngiad mewn cyfraddau ymgynghori ar draws gofal sylfaenol ar gyfer dolur gwddf, gan fod y data sydd gennym hyd yn hyn yn hunangofnodedig yn unig."
 
Mae'r gwasanaeth wedi cael ei enwebu ym mhedwerydd Gwobrau Rhyngwladol Antibiotic Guardian, a gynhelir gan Public Health England, i gydnabod cyflawniadau i fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd ledled y byd. Cyhoeddir y gwobrau ar 27 Mehefin yn Birmingham.
Un system ddelweddu a pheledr-x ddigidol genedlaethol 

Mae pob bwrdd iechyd ac ysbytai yng Nghymru bellach yn defnyddio un system gyffredin ar gyfer delweddau, sganiau a delweddau pelydr-x digidol.
 
Caerdydd a'r Fro yw'r bwrdd iechyd olaf i symud i ddefnyddio gwasanaeth cyfathrebu ac archifo delweddau GIG Cymru (PACS). Mae hyn yn golygu bod pob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru bellach yn defnyddio'r gwasanaeth delweddu prif ffrwd, a gyflenwir gan Fujifilm trwy gontract fframwaith.
 
Mae technoleg PACS yn caniatáu storio delweddau, fel pelydr-x a sganiau, yn electronig, a'u gweld ar sgrin, er mwyn i feddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill allu eu gweld a'u dadansoddi nhw.
 
Mae delweddu digidol wedi cael ei ddefnyddio mewn ysbytai yng Nghymru ers nifer o flynyddoedd ac mae wedi gwella cyflymder ac effeithiolrwydd diagnosis. Mae cyflwyno ateb delweddu cyffredin yn osgoi problemau o ran cydweddiad rhwng systemau delweddau gwahanol, gan sicrhau y gwireddir holl fuddion y dechnoleg.
 
Dywedodd Andrew Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: "Rwy'n falch iawn o weld ateb delweddu GIG Cymru yn cael ei ddefnyddio yng Nghaerdydd a'r Fro, sy'n gartref i'n hysbyty acíwt fwyaf.
 
"Mae defnyddio gwasanaeth cydwedd cyffredin yn cyflwyno arbedion sylweddol, a bydd yn ei gwneud hi'n haws rhannu delweddau rhwng ysbytai," meddai Griffiths. "Mae hon yn garreg filltir o ran cyflwyno gwasanaeth PACS prif ffrwd i Gymru."
WHCIP yn barod i lansio  
 
Mae ein tîm Gwasanaethau Gwybodaeth yn datblygu porth a fydd yn bwynt mynediad unigol ar gyfer ein data a'n cynhyrchion deallusrwydd iechyd a gofal. 
 
Y Porth Deallusrwydd Iechyd a Gofal Cymru (WHCIP) newydd fydd y man canolog i gyrchu offer data, fel y Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol, Porth Gwybodaeth Llywodraeth Cymru, Marchnad Data Iechyd Cymru, a Mapiau Iechyd Cymru. Bydd hefyd yn caniatáu mynediad at gynhyrchion a gwasanaethau sydd wrthi'n cael eu datblygu.
 
Ar ôl ei weithredu, bydd y porth yn cael ei ddiweddaru a'i wella'n rheolaidd trwy ryddhau ymarferoldeb newydd, ar sail gofynion defnyddwyr. Bydd y porth hefyd yn cynnal gwasanaeth dethol data ac yn gosod prosesau clir ar gyfer ceisiadau gwasanaethau gwybodaeth newydd. Hefyd, mae gan WHCIP y potensial i ddarparu mynediad at ddata o'r Adnodd Data Cenedlaethol , sydd wrthi'n cael ei ddatblygu, a fydd yn dod â data cleifion at ei gilydd trwy ddefnyddio iaith gyffredin a safonau technegol.
 
Dylai'r WHCIP fod ar gael ym myrddau iechyd ac ymddiriedolaethau Cymru yn yr haf.
Siartio'r Atlas Cardiofasgwlaidd: Sesiwn holi ac ateb gyda Sally Cox
 
Mae Sally Cox yn casglu data - data y gellir ei ddefnyddio i wella bywydau a chryfhau gofal cleifion.
 
Yn ddiweddar, fel Arbenigwr Cyhoeddi Arweiniol Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, fe wnaeth Sally chwarae rôl allweddol wrth gyflwyno'r data ar gyfer Atlas Amrywiaeth Cardiofasgwlaidd GIG Cymru - cyhoeddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru sy'n amlygu problemau cardiaidd ledled Cymru, â'r nod o wella gofal cardiofasgwlaidd.  
 
Cynhyrchwyd yr atlas yn unol â chais Llywodraeth Cymru, ac mae'n gobeithio codi cwestiynau am uniondeb mynediad, effeithiolrwydd a gwerth y gwasanaethau a ddarperir gan GIG Cymru, a gweithredu fel ysgogiad ar gyfer trawsnewid, arloesedd a chyflwyno gwasanaethau cardïaidd gwerth uchel ar sail tystiolaeth.
 
Mae'r ddogfen ar gael ar  
www.wcn.wales.nhs.uk/caovMae siartiau a mapiau rhyngweithio i ategu'r rhyddhad ar gael ar Mapiau Iechyd Cymru.
 
C: Ymddengys fod hwn yn fater eithaf pwysig. Allwch chi ddweud ychydig bach wrtha' i am beth mae atlas yn gobeithio ei gyflawni?
A: Beth oedd y Cydweithrediaeth Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r arbenigwyr cardiofasgwlaidd eisiau ei wneud oedd dechrau sgwrs am pam fod gwahaniaethau - pam y gall fod lefelau gwahanol o ddifrifoldeb salwch cardiofasgwlaidd ledled Cymru, cyfraddau gwahanol, triniaethau gwahanol. Beth maen nhw'n edrych amdano mewn gwirionedd yw presenoldeb amrywiad anawdurdodedig a allai fod yn sgil tanddefnyddio ymyriadau gwerth uchel neu orddefnyddio rhai gwerth isel ac, ar ôl eu hamlygu, darganfod y rhesymau pam mae'r amrywiadau hynny'n bodoli.
 
C: Ymyriadau gwerth uchel ac isel?
A: Mae ymyriadau'n golygu "triniaeth". Triniaethau gwerth uchel yw'r rheiny sy'n darparu'r budd mwyaf i'r claf a dylid defnyddio'r rhain ledled Cymru yn lle triniaethau â gwerth cyfyngedig neu isel. Mae'r atlas hwn yn gobeithio amlygu hyn, os dyma'r achos. Y nod yw i'r Cydweithrediaeth Iechyd a'r arbenigwyr weithio gyda'r byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau cardïaidd ar sail eu casgliadau. Mae'n gydweithrediaeth.
 
C: Sut ydych chi'n rhan ohono?
A: Rwy'n rhan o weithgor technegol atlas a chawsom arweiniad gan y grwp cyfeirio arbenigol - y cardiolegwyr a'r clinigwyr ar draws GIG Cymru. Nhw oedd yn penderfynu ar ba ddangosyddion yr oedden nhw eisiau edrych. Roedden nhw eisiau canolbwyntio ar dri phrif faes: Syndrom Coroniadd Acíwt, Methaint y Galon a Ffibriliad Artrïaidd. Yn rhan o'm rôl i fel dadansoddwr, mae gen i fynediad at setiau data'r GIG, ac felly fy ngwaith i oedd cyfuno'r data, creu'r dangosyddion a chreu'r ddelwedd - a'i harddangos mewn ffordd hawdd i'w deall.
 
Caiff y rhan fwyaf o'r data a ddefnyddiwyd ei gadw yn ein warws data cenedlaethol, er enghraifft, y data gofal eilaidd a gesglir yn fisol oddi wrth byrddau iechyd. Hefyd, roedd data gofal sylfaenol, data archwiliad cardiaidd o'r byrddau iechyd a data am farwolaethau oddi wrth y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
 
C: Gadewch i mi ofyn mwy i chi am Dîm Cyhoeddi Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Ar wahân i Lywodraeth Cymru, pwy sy'n gofyn am wybodaeth? Ar gyfer beth y maen nhw'n ei defnyddio?
A: Mae pobl yn gofyn am wybodaeth bob amser - ymchwilwyr yn chwilio am ystadegau, clinigwyr am ffigurau. Ac mae llawer o geisiadau yn dod oddi wrth ein byrddau iechyd ein hunain. Gallant holi am eu data eu hunain, ond weithiau maen nhw angen gweld data o fyrddau iechyd eraill, er mwyn iddyn nhw allu cymharu eu gwasanaethau neu efallai ble maen nhw'n genedlaethol.  
 
Mae ein tîm cyhoeddi yn ceisio defnyddio'r wybodaeth hon, ei chrynhoi a'i chyflwyno mewn ffordd glir - p'un ai ar ffurf testun, graff, map, neu gymwyseddau rhyngweithiol. Mae llawer o groesi gyda'n tîm cyhoeddi sy'n delweddu ac arddangos y wybodaeth hon, a Thîm Dadansoddi Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Maen nhw'n ymdrin â llawer iawn o geisiadau ad hoc - negeseuon e-bost a galwadau ffôn gan Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd, meddygfeydd, pawb.
 
C: A fydd mwy atlasau amrywio, ar gyfer pynciau eraill efallai?
A: Wel, cynllun Llywodraeth Cymru oedd datblygu cyfres o atlasau amrywiol. Hwn oedd y cyntaf yr oedden nhw eisiau ei greu. Ond nid ydym ni'n gwybod ar hyn o bryd. Gadewch i ni pa mor llwyddiannus fydd hwn, ac a all ddechrau'r sgyrsiau sydd eu hangen i ddeall yn well yr amrywiad ledled Cymru, a gweithio i wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth geisio hybu gwella a gofal iechyd ar sail gwerth.
Amlygu Gwasanaethau Masnachol
 
Er eu bod nhw wedi cael eu henwebu, ni wnaeth ein Tîm Gwasanaethau Masnachol ennill gwobr ddymunol iawn yng Ngwobrau Caffael Go eleni ym Mirmingham y mis diwethaf - a oedd yn cydnabod y prosiectau caffael cyhoeddus gorau yn y DU.
 
Roedd y tîm yn bwriadu adeiladu ar lwyddiant yr hydref diwethaf, pan wnaethant ennill tair gwobr yn nigwyddiad Gwobrau Go Cymru, sy'n dathlu rhagoriaeth, arloesedd ac arweinyddiaeth ym maes caffael cyhoeddus yng Nghymru. 
 
Eleni, enwebwyd y tîm ar gyfer Gwobr Arloesedd y Flwyddyn GO ar gyfer ei waith PROMS a PREMS, yn ogystal â Gwobr Prosiect Caffael y Flwyddyn GO ar gyfer Fframwaith Meddygon Teulu.