Mawrth 2023
Croeso i e-Fwletin Cymru Iach ar Waith

Mae’r e-fwletin misol yn darparu diweddariadau rheolaidd gan dîm Cymru Iach ar Waith, canllawiau Covid-19, newyddion ynghylch iechyd a llesiant yn y gweithle yn ogystal â dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.

Mae croeso i chi rannu hwn gyda’ch cydweithwyr a'ch rhwydweithiau.

Salwch Hirdymor yn Effeithio ar Weithlu'r DU

Mae adroddiadau diweddar wedi amlygu cynnydd sydyn yn nifer y gweithwyr yn y DU sy'n gadael y gweithlu oherwydd afiechyd (Saesneg yn unig).
 
Yn ôl data gan Llafurlu, erbyn hyn mae bron i 2.5 miliwn o oedolion o oedran gweithio yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch tymor hir. Daw’r adroddiad ar adeg o ddadlau cynyddol am y cynnydd mewn anweithgarwch economaidd fel y’i gelwir, sef cyfanswm o 8.9 miliwn o bobl, a’r hyn sy’n ei achosi.
 
Gall cyflogwyr ein helpu i ddeall anghenion eu gweithlu yn well trwy gwblhau ein Harolwg Cyflogwyr CIW 2023.
Arolwg Cyflogwyr Cymru Iach ar Waith 2023 — Yn cau ar 19 Mawrth

Diolch yn fawr i'r rhai ohonoch a gwblhaodd ein Harolwg Cyflogwyr 2023.

I'r rhai ohonoch sydd heb wneud, mae amser o hyd. Drwy gwblhau’r arolwg, byddwch yn ein galluogi i ddeall eich pryderon am iechyd a llesiant yn y gweithle yn well a sut y gall Cymru Iach ar Waith helpu.

Bydd yr arolwg yn cau am hanner nos ddydd Sul, 19 Mawrth 2023.
Gwiriad Statws Uwch Cymru Iach ar Waith

Llongyfarchiadau i gyflogwyr Cymru Iach ar Waith sydd wedi ail-ddilysu’r Gwiriad Statws Uwch am 12 mis arall.
Astudiaeth Achos Cyflogwr: Iechyd Meddwl a Llesiant

Mae iechyd meddwl a llesiant wedi’u hamlygu fel pryderon gan gyflogwyr yn ein harolwg yn 2023.

Mae Cartrefi Melin yn gyflogwr enghreifftiol ar gyfer yr astudiaeth achos hon o ran cymryd agwedd gadarnhaol at wella iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol ei weithwyr.

Mae Cartrefi Melin wedi cyflawni Safon Iechyd Corfforaethol Platinwm CIW ac mae’n Sefydliad sydd wedi gwneud addewid i Amser i Newid Cymru.
Oeddech chi'n gwybod?

Mae cysylltiad cryf rhwng costau byw a llesiant.

Yn ôl canfyddiadau arolwg diweddar, dywedodd 60% o ymatebwyr fod costau byw cynyddol yn lleihau ansawdd eu bywyd. Dywedodd 74% fod pobl y maent yn eu hadnabod yn cael trafferth dod i ben â’u costau byw. Mae 68% hefyd yn poeni am allu gwresogi eu cartrefi.

I gael awgrymiadau ar yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud i helpu, ewch i’n tudalennau gwe “Yr Argyfwng Costau Byw” CIW a gwrandewch ar ein podlediad “Lles Ariannol yn y Gweithle”. Gall cyflogwyr hefyd rannu eu barn drwy gwblhau ein Harolwg 2023.
Dyddiadau Allweddol ar gyfer mis Ebrill 2023

Diwrnod Iechyd y Byd (Saesneg yn unig) (07 Ebrill)

Ar 7 Ebrill 2023 – Diwrnod Iechyd y Byd – bydd Sefydliad Iechyd y Byd yn dathlu 77 mlynedd o wella iechyd y cyhoedd.

💡i fusnesau: gofynnwch i'ch staff bostio am y diwrnod ar eu platfformau cyfryngau cymdeithasol. Gallent bostio lluniau neu straeon ohonynt yn cymryd rhan mewn gweithgareddau iach, gan ddefnyddio #IechydiBawb #HealthForAll a #SefydliadIechydYByd75 #WHO75.

Ar Eich Traed, Brydain (Saesneg yn unig) (27 Ebrill)

Cyflogwyr - gofynnwch i'ch gweithle a'ch cydweithwyr gymryd rhan yn Ar Eich Traed, Brydain.

Ar y diwrnod ymwybyddiaeth cenedlaethol hwn, bydd gweithwyr sy’n gweithio wrth ddesg yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a syml. #EisteddwchLai #SitLess a #SymudwchFwy #MoveMore yn y Gwaith.
Canllawiau Diweddaraf Covid-19

I gadw Cymru’n ddiogel cofiwch y canlynol: