|
Dyddiadau Allweddol ar gyfer Medi 2023
Wythnos Nabod Eich Rhifau! (Saesneg yn unig) (04 - 10 Medi)
Nabod Eich Rhifau! Cynhelir yr wythnos hon bob mis Medi a dyma ddigwyddiad profi ac ymwybyddiaeth pwysedd gwaed mwyaf y DU.
Mae gan chwe miliwn o bobl yn y DU bwysedd gwaed uchel ac nid ydynt yn ymwybodol ohono. Fel arfer nid oes unrhyw symptomau; gallai'r arwydd cyntaf ohono fod yn drawiad ar y galon neu strôc.
Fel rhan o’r Wythnos Nabod Eich Rhifau! gall gweithleoedd annog gweithwyr i wirio eu pwysedd gwaed trwy hyrwyddo negeseuon allweddol. Mae pecynnau o adnoddau ar gael gan Blood Pressure UK (Saesneg yn unig) (sefydliad nid-er-elw). Mae rhagor o wybodaeth am ffyrdd iach o fyw hefyd ar gael ar y wefan Cymru Iach ar Waith.
Diwrnod Atal Hunanladdiad (Saesneg yn unig) (10 Medi)
Trefnir Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd gan y Gymdeithas Ryngwladol i Atal Hunanladdiad (IASP) (Saesneg yn unig) . Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cyd-noddi'r diwrnod, sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth ledled y byd fod modd atal hunanladdiad.
Mae gweithredu yn y gweithle sy'n cefnogi ac yn annog diwylliant agored o fewn y gweithlu yn galluogi pobl i gael yr hyder nid yn unig i siarad ond hefyd i gymryd camau a helpu i atal hunanladdiad. Fel cyflogwr, gallwch chi helpu i chwarae rhan yn hyn trwy hyrwyddo adnoddau iechyd meddwl, gwella cefnogaeth iechyd meddwl a lleihau stigma iechyd meddwl trwy gynnal sgyrsiau agored a gonest.
Mae gwybodaeth ychwanegol am ffyrdd iach o fyw ac iechyd meddwl hefyd ar gael ar ein gwefan.
Gellir dod o hyd i ddolenni i ystod o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd hefyd trwy wefan Cymru Iach ar Waith.
|