|
Dyddiadau Allweddol
Mis Cerdded Cenedlaethol (Saesneg yn unig) (01-31 Mai)
Mae cerdded i'r gwaith yn amlach yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant gweithwyr trwy eu hannog i fod yn fwy egnïol yn gorfforol.
Cyflogwyr - gallwch ddangos eich ymrwymiad i iechyd a llesiant eich staff trwy fuddsoddi mewn gweithgareddau cerdded a fydd yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn falch o'u gweithle. Mae Strydoedd Byw (Saesneg yn unig) wedi datblygu nifer o adnoddau, gan gynnwys heriau staff Walking Works, i helpu i ddod â chydweithwyr ynghyd, hyrwyddo llesiant yn y gweithle ac ysbrydoli newid diwylliant cadarnhaol.
Mae gwybodaeth ychwanegol hefyd ar gael ar dudalennau “Bod yn Actif” gwefan Cymru Iach ar Waith.
Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (Saesneg yn unig) (13 – 19 Mai)
Thema Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni yw “symud.” Mae symud yn bwysig i'n hiechyd meddwl, ond eto mae llawer ohonom yn cael trafferth neulltio’r amser i symud digon. I helpu hyn, mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl wedi cynhyrchu nifer o adnoddau a syniadau i helpu i gael pobl i symud (Saesneg yn unig).
Gall cyflogwyr hefyd ddod o hyd i ganllawiau defnyddiol ar dudalennau gwe “Iechyd Meddwl a Llesiant” a “Bod yn Actif” Cymru Iach ar Waith.
Diwrnod Dim Tybaco y Byd (Saesneg yn unig) (31 Mai)
Mae'r ymgyrch hon yn annog llywodraethau i roi terfyn ar gymorthdaliadau tyfu tybaco a chefnogi ffermwyr i dyfu cnydau mwy cynaliadwy sy'n gwella diogeled bwyd a maeth.
Mae ysmygu hefyd yn cael effaith ar fusnesau. Mae pobl nad ydynt yn ysmygu 33% yn llai tebygol o golli’r gwaith oherwydd afiechyd nag ysmygwyr. Gall cefnogi gweithiwr sydd am roi’r gorau iddi arbed hyd at £4,000 y flwyddyn i sefydliad oherwydd seibiannau byrrach a llai aml a llai o absenoldebau salwch.
Gall cyflogwyr godi ymwybyddiaeth o’r materion hyn a hyrwyddo gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu (Helpa Fi I Stopio) a’r ymgyrch “Newid, Stopio ac Arbed” (Saesneg yn unig), sy’n amlygu faint o arian y gall ysmygwyr ei arbed drwy roi’r gorau iddi neu newid i ddewisiadau tybaco eraill.
|