|
Jar Meddylgarwch
Cymerwch jar neu botel lân, wag, a’i llenwi ¾ llawn â dŵr.
Nesaf, ychwanegwch lud clir, llewych a bwydliw.
Seliwch y clawr yn dynn a’i ysgwyd!
Eglurwch i’r plentyn/plant fod y llewych fel ein meddyliau - wedi eu hysgwyd tan ei bod yn anodd gweld yn glir, fel ar yr adegau pan fyddwn ni’n flin neu’n ddigalon.
Gosodwch y jar o’u blaenau a gwyliwch y llewych yn syrthio ac yn setlo’n llonydd. Yn awr eglurwch, pan fyddwn yn llonydd ac yn cymryd ychydig funudau, y gall ein meddyliau ymlonyddu, fel y llewych, a gallwn ddechrau gweld yn gliriach unwaith eto.
|