Hydref 2022
Mae IGDC wedi ymrwymo i gynhwysiant digidol yng Nghymru
 
Mae IGDC wedi arwyddo Siarter Cynhwysiant Digidol yn yr Uwchgynhadledd Ddigidol gyntaf a gynhaliwyd er mwyn dod â’r sectorau iechyd, gofal a gwirfoddol ynghyd i gydweithio ar sut gall offer ddigidol gefnogi a galluogi cynhwysiant yng Nghymru.

Diben y Siarter yw cefnogi a hyrwyddo sefydliadau sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector yng Nghymru sy’n fodlon hybu sgiliau digidol sylfaenol a helpu pobl i fynd ar-lein.

Wrth siarad yn y digwyddiad Siarter Digidol a gynhaliwyd ar y cyd â IGDC, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Cwmpas, dywedodd Helena Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: 
“Trwy weithio mewn partneriaeth mewn digwyddiadau fel y rhain, drwy wrando ac annog sefydliadau a’r sector gwirfoddol i weithio ochr yn ochr â’i gilydd, gallwn ni wir groesawu digidol ai ddefnyddio at ddibenion da.

“Mae angen i ni fod yn sicr, yn yr holl ddatblygiadau digidol rydyn ni’n eu gwneud, nad ydyn ni’n eu gwneud ag unrhyw ragfarn neu wahaniaethu o ran oedran, mae’n rhaid i ni herio ein hunain gyda hynny”

Dywedodd Simon Jones, Cadeirydd IGDC: “Mae datblygiadau ym maes iechyd yn mynd i ddechrau bod yn llawer mwy gweladwy i bobl dros y flwyddyn neu ddwy nesaf. Mae pobl yn mynd i weld mwy o gyfleoedd i ymgysylltu’n ddigidol â’u gwasanaethau a rheoli eu gofal eu hunain llawer mwy.

Wrth i ni ddatblygu systemau a chymwysiadau digidol, rydym eisiau sicrhau nad yw’r bobl hynny sydd angen mynediad at wasanaethau ac sy’n defnyddio mwy o wasanaethau iechyd a gofal nag eraill ar eu colled, o’i gymharu â'r hyn y gallent fod wedi bod fel arall. 

Yr hyn yr ydym am ei wneud yng Nghymru yw gwneud cynhwysiant yn ganlyniad bwriadol ac nid gwneud diffyg cynhwysiant yn ganlyniad anfwriadol o arloesi digidol mewn gofal iechyd.”

Lansio e-Grynodebau i feddygon teulu 
 
Mae crynodebau electronig i feddygon teulu - un o swyddogaethau Dewis Fferyllfa - wedi mynd yn fyw ledled Cymru.
 
Mae e-Grynodebau yn caniatáu i fferyllwyr cymunedol yng Nghymru anfon crynodebau o ymgynghoriad Dewis Fferyllfa claf at feddyg teulu’r claf yn electronig, mewn modd diogel, cyfrinachol, cyflym, amserol ac olrheiniadwy – gan wneud yn siŵr bod gan y meddyg teulu yr wybodaeth ddiweddaraf am driniaeth, y canlyniadau ymgynghori a’r cyngor a roddir i glaf mewn fferyllfa gymunedol.
 
Mae'r e-Grynodeb yn gweithio gyda'r holl fodiwlau Dewis Fferyllfa perthnasol - Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin (CAS), Cyflenwad Meddyginiaethau Brys (EMS), Gwasanaeth Rhagnodi Annibynnol (IPS) a Brechiadau Ffliw. Mae hyn yn cynnwys y modiwl Profi a Thrin Dolur Gwddf yn CAS sy'n golygu y gall meddygon teulu cleifion sydd wedi cael gwrthfiotigau ar bresgripsiwn fel rhan o'r gwasanaeth hwn gael gwybod am hyn trwy e-Grynodeb yr un diwrnod.
 
Mae Dewis Fferyllfa yn integreiddio â rhwydwaith GIG Cymru, gan roi mynediad i fferyllwyr cymunedol at fanylion y feddyginiaeth yng Nghofnod Meddyg Teulu Cymru y claf a’u helpu i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
System Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cael ei defnyddio i ehangu'r rhaglen Sgrinio Coluddion

Mae’r System Rheoli Gwybodaeth Sgrinio Coluddion (BSIMS) a ddatblygwyd ac a gefnogir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cael ei defnyddio i ehangu’r Rhaglen sgrinio coluddion i bobl 55, 56 a 57 oed.

Mae'r BSIMS yn gymhwysiad diogel ar y we sy'n cefnogi'r broses sgrinio gyfan, drwy ddethol pobl o Gymru i gael eu sgrinio.

Yn dilyn ehangu’r rhaglen profi yn y cartref, bydd 172,000 yn fwy o bobl yng Nghymru yn dechrau derbyn pecynnau hawdd eu defnyddio sy’n profi camau cynnar canser y coluddyn. Mae'r pecynnau profi syml i'w defnyddio yn cael eu postio'n awtomatig i bobl gymwys bob dwy flynedd. Mae’r rhai sy’n cael eu sgrinio yn darparu sampl o ysgarthion gartref ac yna'n ei anfon yn ôl i'w ddadansoddi.

Fel rhan o ehangu’r rhaglen, bydd pobl 55, 56 a 57 oed yn dechrau cael eu gwahodd i gael eu sgrinio am y tro cyntaf o fis Hydref. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno'n raddol i'r grŵp oedran cymwys newydd yn ystod y 12 mis nesaf. Mae tystiolaeth yn dangos bod sgrinio pobl yn iau yn galluogi canfod mwy o ganserau'r coluddyn yn gynharach, pan fo triniaeth yn debygol o fod yn fwy effeithiol a phan fo tebygolrwydd goroesi yn well.

Mae Canolfan Ragoriaeth Microsoft yn creu model gweithredu brys ar gyfer y gwasanaeth 111 
 
Creodd y Ganolfan Ragoriaeth Microsoft GIG Cymru newydd fodel gweithredu brys ar gyfer GIG 111 Cymru, ar ôl i systemau TG un o’i gyflenwyr orfod cael eu cau, yn dilyn ymosodiad seiber ledled y DU. 

Ar ôl yr ymosodiad ar y cyflenwr Advanced ym mis Awst 2022, bu’r gwasanaeth 111 yn gorfod dychwelyd i broses â llaw i reoli gwasanaethau y tu allan i oriau. Bu’n rhaid e-bostio gwybodaeth am alwadau i fyrddau iechyd unigol (a rhyngddynt) a gynyddodd y gwaith gweinyddol yn sylweddol, ac achosi oedi posibl a risg glinigol. 

Roedd y datrysiad yn cynnwys defnyddio cydrannau platfform Microsoft 365 gan gynnwys rhestr olrhain SharePoint a chymwysiadau Power Platform i ddarparu model gweithredu interim cadarn. Mae GIG Cymru wedi buddsoddi mewn Cytundeb Microsoft Enterprise Cymru gyfan, ynghyd â sefydlu Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 genedlaethol i ddarparu cymorth, datblygiad ac arloesedd cynaliadwy hirdymor. 

Bydd sesiwn graffu Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn taflu goleuni ar bwysigrwydd iechyd digidol yng Nghymru
 
Ddydd Mercher 26 Hydref, cynhelir sesiwn graffu ar y cyd yn y Senedd ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a thrawsnewid digidol ar draws GIG Cymru.

O dan arweiniad Pwyllgor Iechyd a Chymdeithasol y Senedd a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, bydd yn adolygu blwyddyn gyntaf DHCW a’i gynnydd ar draws nifer o feysydd penodol. Mae’r rhain yn cynnwys y rhaglen waith i gyflawni trawsnewid digidol ledled Cymru, cydweithio rhwng byrddau iechyd a sefydliadau partner, gweithlu a chapasiti, a thryloywder, hygyrchedd ac ansawdd data.

Bydd y sesiwn banel yn mynd ar drywydd nifer o argymhellion ar gyflenwi iechyd a gofal cymdeithasol digidol yng Nghymru wedi’u hamlinellu yn adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd, a gyhoeddwyd yn 2018. Bydd yn archwilio cyflawniadau DHCW ers ei lansio ym mis Ebrill 2021, ond bydd hefyd yn canolbwyntio ar y rhwystrau i drawsnewid digidol gyda’r nod o adnabod meysydd i'w gwella.

Prosiect Plant Sy'n Derbyn Gofal ar Restr Fer Dwy Wobr HETT
 
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod un o brosiectau Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sef Plant sy’n Derbyn Gofal (LAC), wedi cyrraedd rhestr fer dau gategori o wobrau Unexpected Innovation AwardsHETT (Rhagoriaeth Gofal Iechyd Trwy Dechnoleg), sef dathliad blynyddol o’r goreuon ym maes dylunio arbrofol, cydweithio, ac arweinyddiaeth mewn gofal iechyd digidol yn y DU. 
 
Prosiect cenedlaethol a noddir gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu dyluniad digidol yw Plant sy’n Derbyn Gofal a fydd yn sail i'r broses glinigol a gofal ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal. Mae hefyd yn anelu at ddatblygu safonau gwybodaeth cenedlaethol a fydd yn hwyluso’r gwaith o rannu gwybodaeth rhwng ymarferwyr a sefydliadau.
 
Mae’r prosiect yn cael ei redeg drwy blatfform WCCIS (System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru) sef CareDirector. Er yr ymgymerwyd â dull a all weithio ag unrhyw system, gan fod 18 o’r 29 sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol yn defnyddio CareDirector, mae hwn yn gyfle i gipio data trwy ddefnyddio dull unwaith i Gymru. 
 
Mae’r prosiect wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori gwobrwyo HETT:  
 
·        Y Wobr ‘That Will Never Work’ - Y Datrysiad Mwyaf Creadigol a Tharfol: mae’r wobr hon yn cydnabod straeon llwyddiant beiddgar ym maes arloesi, gan daflu goleuni ar y datrysiadau technoleg iechyd mwyaf creadigol ac aflonyddgar sy’n chwyldroi gofal cleifion y flwyddyn ddiwethaf, a’r 
 
·        Cydweithio Gorau o ran Gofal Integredig: mae’r wobr hon yn cydnabod y prosiectau, y cyfarwyddebau, a’r mentrau cydweithredol sy’n dangos y pŵer sydd gan ofal integredig i’w gynnig. 
 
Cyhoeddir enwau’r enillwyr yn seremoni wobrwyo HETT yn Llundain ar 23 Tachwedd. 
Tîm Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar restr fer gwobr Tîm y Flwyddyn

Mae tîm Rheoli Gwasanaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) wedi cyrraedd rownd derfynol categori tîm y flwyddyn yng Ngwobrau Rheoli Gwasanaethau Proffesiynol 2022.

Rhoddir y wobr i dîm sydd wedi 'cefnogi eu cwsmeriaid drwy ddarparu gwasanaeth ysbrydoledig a budd sylweddol i fusnes'. Ymhlith y rhai eraill sy'n ymuno â DHCW yn y rownd derfynol mae'r Adran Gwaith a Phensiynau, Legal & General, Vodafone, Direct Line a BT Enterprise.

Dywedodd Keith Reeves, Rheolwr y Tîm Rheoli Gwasanaeth, “Mae hwn yn gyflawniad gwych i’r tîm, mae’n adlewyrchiad o’r holl waith caled a’r safonau uchel y mae tîm rheoli’r gwasanaeth yn eu cyflawni drwy gydol y flwyddyn.”

Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ym mis Tachwedd.

DHCW yn penodi dau Aelod Annibynnol newydd i'w Fwrdd

Bydd Marilyn Bryan-Jones ac Alistair Klaas Neill GM yn derbyn swyddi fel Aelodau Annibynnol ar Fwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru o fis Medi 2022.

Mae Marilyn Bryan-Jones yn dod â phrofiad helaeth yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, sy'n cynnwys rolau fel ymddiriedolwr Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol ac wrth ddatblygu partneriaethau strategol ar gyfer Strategaeth Tai Cyngor Caerdydd. Mae ganddi arbenigedd mewn cefnogi sefydliadau yn eu hamrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant ac mae hefyd yn aelod gweithgar o Grŵp Treftadaeth y Caribî.

Mae Alistair Neill yn ymuno â'r sefydliad gyda dros 20 mlynedd o brofiad uwch arweinyddiaeth yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ar lefel cwmnïau rhyngwladol, gan gynnwys 18 mlynedd fel prif weithredwr awdurdod lleol. Mae'n Gynghorydd ar Gyngor Sir Fynwy. Arweiniodd yr ymateb i’r pandemig yn rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr tan 2021.